Neidio i'r cynnwys

Crynodeb o’r Beibl

Crynodeb o’r Beibl

Drwy gydol hanes, does ’na’r un llyfr wedi cael ei ddosbarthu gymaint â’r Beibl, ac mae llawer o bobl yn ei drysori. Ond eto, efallai byddwch chi’n meddwl, ‘Beth mae’r llyfr enwog hwn yn sôn amdano?’

Mae Y Beibl—Beth Yw Ei Neges? yn rhoi crynodeb syml o’r Beibl i’ch helpu chi i ddeall y thema sy’n rhedeg drwy’r Beibl. Mae’r llyfryn hwn yn rhoi trosolwg o’r Beibl o hanes y creu i’r gobaith cyffrous ar gyfer y dyfodol sy’n cael ei ddisgrifio yn llyfr Datguddiad. Mae’n cynnwys llinell amser sy’n dangos digwyddiadau pwysig. Mae hefyd yn cynnwys lluniau hyfryd a chwestiynau diddorol ar gyfer trafodaeth.

Darllen Y Beibl—Beth Yw Ei Neges? ar lein.