Neidio i'r cynnwys

Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ddelio ag Iselder?

Ydy’r Beibl yn Gallu Fy Helpu i Ddelio ag Iselder?

Ateb y Beibl

 Ydy, oherwydd mae’r help gorau yn dod oddi wrth ‘Dduw, sy’n cysuro’r rhai digalon.’​—2 Corinthiaid 7:6.

Beth mae Duw yn ei roi i helpu delio ag iselder

  •   Nerth. Mae Duw yn eich adfywio a’ch calonogi, nid drwy gymryd eich holl broblemau i ffwrdd, ond drwy ateb eich gweddïau pan fyddwch chi’n gofyn am y nerth i ymdopi. (Philipiaid 4:13) Gallwch chi fod yn hyderus ei fod yn barod i wrando, gan fod y Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.” (Salm 34:18) Mewn gwirionedd, mae Duw yn gallu clywed eich cri am help hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu mynegi eich teimladau mewn geiriau.—Rhufeiniaid 8:26, 27.

  •   Esiamplau da. Gweddïodd un salmydd ar Dduw: “Dw i mewn dyfroedd dyfnion, ARGLWYDD, a dw i’n galw arnat ti!” Deliodd y salmydd a’i iselder drwy gofio bod Duw eisiau maddau ein pechodau. Dywedodd wrth Dduw: “Os wyt ti’n cadw golwg ar bechodau, pa obaith sydd i unrhyw un? Ond rwyt ti’n barod i faddau, ac felly mae pobl yn dy addoli di.”—Salm 130:1, 3, 4.

  •   Gobaith. Ar ben y cysur mae’n ei roi inni nawr, mae Duw wedi addo cael gwared ar yr holl broblemau sy’n achosi iselder. Unwaith iddo gyflawni’r addewid hwnnw, “bydd pethau’r gorffennol [gan gynnwys iselder] wedi eu hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl.”—Eseia 65:17.

 Nodyn: Yn ogystal â chydnabod yr help mae Duw yn ei ddarparu, mae Tystion Jehofa hefyd yn ceisio triniaeth feddygol ar gyfer problemau fel iselder clinigol. (Marc 2:17) Ond dydyn ni ddim yn hyrwyddo unrhyw driniaeth feddygol benodol; gan ein bod ni’n teimlo y dylai bob person wneud ei benderfyniad ei hun mewn materion o’r fath.