Neidio i'r cynnwys

Sut Gallwch Chi Fyw am Byth?

Sut Gallwch Chi Fyw am Byth?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn addo: “Mae’r sawl sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth.” (1 Ioan 2:17) Beth mae Duw eisiau i chi ei wneud?

  •   Dysgu am Dduw a’i Fab, Iesu. Dywedodd Iesu mewn gweddi: “Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi ei anfon.” (Ioan 17:3) Sut mae rhywun yn dod i adnabod Duw ac Iesu? Rydyn ni’n dod i’w hadnabod drwy astudio’r Beibl a rhoi ei neges ar waith yn ein bywydau a. Mae’r Beibl yn datgelu meddwl y Creawdwr, Jehofa Dduw, Rhoddwr bywyd. (Actau 17:24, 25) Mae’r Beibl hefyd yn dweud wrthon ni am ei Fab, Iesu, a oedd yn dysgu pobl am fywyd tragwyddol.—Ioan 6:67-69.

  •   Rhoi ffydd yn aberth pridwerthol Iesu. Daeth Iesu i’r ddaear ‘i aberthu ei fywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.’ (Mathew 20:28) Mae aberth Iesu wedi agor y ffordd i fodau dynol fyw am byth ym Mharadwys ar y ddaear. b (Salm 37:29) Dywedodd Iesu: “Mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Mae rhoi ffydd yn Iesu yn gofyn am fwy na chredu ynddo. Mae angen inni ddewis byw yn unol â’i ddysgeidiaethau ac ag ewyllys ei Dad.​—Mathew 7:21; Iago 2:17.

  •   Meithrin perthynas agos â Duw. Mae Duw eisiau inni glosio ato a dod yn ffrind iddo. (Iago 2:23; 4:8) Mae Duw yn dragwyddol. Y mae’n byw am byth ac mae eisiau i’w ffrindiau fyw am byth hefyd. Yn ei Air, mae Duw yn dweud yn eglur beth y mae’n ei ddymuno ar gyfer pawb sy’n ei geisio: “Bydded i’w calonnau fyw byth!”​—Salm 22:26, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Camsyniadau am Fywyd Tragwyddol

 Camsyniad: Bydd darganfyddiadau dynol yn atal pobl rhag marw.

 Ffaith: Er bod datblygiadau meddygol yn addo estyn hyd bywyd dyn, ni fydd ymdrechion dynol yn arwain at fywyd tragwyddol. Dim ond Duw sy’n gallu rhoi bywyd tragwyddol inni, oherwydd ef yn unig yw’r “ffynnon sy’n rhoi bywyd.” (Salm 36:9) Mae Duw yn addo y bydd yn llyncu marwolaeth am byth ac yn rhoi bywyd tragwyddol i bobl ffyddlon.​—Eseia 25:8; 1 Ioan 2:25.

 Camsyniad: Dim ond pobl sy’n perthyn i rai cenhedloedd fydd yn byw am byth.

 Ffaith: Nid yw Duw yn dangos ffafriaeth. I’r gwrthwyneb, mae Duw yn “derbyn pobl o bob gwlad sy’n ei addoli ac yn gwneud beth sy’n iawn.” (Actau 10:34, 35) Mae pobl o bob cefndir ethnig a diwylliant sy’n ufuddhau i Dduw yn gallu byw am byth.

 Camsyniad: Bydd bywyd tragwyddol yn ddiflas.

 Ffaith: Mae Duw yn cynnig bywyd tragwyddol inni oherwydd ei fod yn ein caru ni ac eisiau inni fod yn hapus. (Iago 1:17; 1 Ioan 4:8) Y mae’n gwybod na allwn ni fod yn hapus heb waith pwrpasol. (Pregethwr 3:12) Mae Duw yn addo y bydd pawb sy’n byw am byth ar y ddaear yn cael gwaith ystyrlon a boddhaol a fydd yn fuddiol iddyn nhw ac i’r rhai y maen nhw’n eu caru.—Eseia 65:22, 23.

 Ar ben hynny, bydd y rhai sy’n byw am byth yn mwynhau dysgu pethau newydd am y Creawdwr a’r holl bethau y mae wedi eu creu. Fe greodd fodau dynol gyda’r dymuniad i fyw am byth ac i ddysgu amdano, er na fydd pobl byth “yn gallu darganfod popeth mae Duw’n bwriadu ei wneud.” (Pregethwr 3:10, 11) Felly, bydd gan bawb sy’n byw am byth rywbeth diddorol i’w wneud a’i ddysgu o hyd.

a Mae Tystion Jehofa yn cynnig rhaglen astudio’r Beibl am ddim. Am fwy o wybodaeth gweler y fideo Beth Sy’n Digwydd ar Astudiaeth Feiblaidd?

b Gweler yr erthygl “Mae Iesu’n Achub—Sut?