Ydy’r Beibl yn Dysgu Bod y Ddaear yn Fflat?
Ateb y Beibl
Nac ydy, dydy’r Beibl ddim yn dysgu bod y ddaear yn fflat. a Nid gwerslyfr gwyddoniaeth yw’r Beibl. Ond ar yr un pryd, nid yw’n anghytuno â ffeithiau gwyddonol. Mae geiriau’r Beibl yn “sefyll am byth. Maen nhw’n ffyddlon.”—Salm 111:8.
Beth yw ystyr y “bedwar ban byd” sydd yn y Beibl?
Nid yw’r geiriau “bedwar ban byd” a “ben draw’r byd,” a welwn yn y Beibl, i fod yn llythrennol, fel petai’r ddaear yn sgwâr a therfynau iddi. (Eseia 11:12; Job 37:3) Yn hytrach, ymadroddion yw’r rhain sydd yn cyfeirio at wyneb yr holl ddaear. Mae’r Beibl yn defnyddio pedwar pwynt y cwmpawd mewn ffordd debyg.—Luc 13:29, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
Mae’n ymddangos bod y term Hebraeg, a gyfieithwyd fel “ban byd” neu “pen draw’r byd,” yn idiom sy’n seiliedig ar y gair “adenydd.” Yn ôl yr International Standard Bible Encyclopedia, “oherwydd bod aderyn yn ymestyn ei adenydd i orchuddio ei gywion, mae [y term Hebraeg hwn] yn gallu cyfeirio at eithafoedd unrhyw beth sydd wedi ei ymestyn.” Hefyd mae’n ychwanegu bod yr un term a welir yn Job 37:3 ac Eseia 11:12, “yn golygu’r arfordir, ffiniau, neu gyrion y tir ar wyneb y ddaear.” b
Beth am y temtasiwn a roddodd Satan o flaen Iesu?
Er mwyn temtio Iesu, “dyma’r diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd a’u cyfoeth iddo.” (Mathew 4:8) Mae rhai yn honni bod yr hanes hwn, yn y Beibl, yn dysgu bod modd gweld y byd i gyd o un man ar ddaear fflat. Ond, ymddengys mai metaffor yw’r “mynydd uchel iawn” yn yr achos hon, yn hytrach na rhywle llythrennol. Ystyriwch pam bod hyn yn rhesymol.
Does dim mynydd ar y ddaear lle gellir gweld holl deyrnasoedd y byd.
Dangosodd y Diafol holl deyrnasoedd y byd i Iesu yn ogystal a’u “cyfoeth.” Nid yw’n bosib gweld manylion o’r fath o bellter, felly mae’n ymddangos bod y Diafol wedi defnyddio rhyw fath o weledigaeth i ddangos y manylion hyn i Iesu. Gallai hyn fod yn debyg i’r ffordd y byddai rhywun yn defnyddio taflunydd a sgrin i ddangos lluniau o wahanol lefydd ar y ddaear.
Mae’r hanes cyfochrog yn Luc 4:5 yn dweud bod y Diafol wedi “dangos holl wledydd y byd iddo mewn eiliad.” Byddai hyn yn rhywbeth y tu hwnt i allu golwg dynol. Mae hyn yn awgrymu bod y Diafol wedi defnyddio rhywbeth heblaw golwg llythrennol i gyflwyno’r temtasiwn i Iesu.
a Mae’r Beibl yn cyfeirio at Dduw fel, “yr hwn sy’n eistedd ar gylch y ddaear.” (Eseia 40:22, J. Jenkins a Herbert Morgan) Mae rhai cyfeirlyfrau yn awgrymu bod y gair ‘cylch,’ a ddefnyddiwyd yma, yn gallu golygu sffêr, er nad yw pob ysgolhaig yn cytuno. Sut bynnag, dydy’r Beibl ddim yn cefnogi’r syniad fod y ddaear yn fflat.
b Argraffiad Diwygiedig, Cyfrol 2, tudalen 4.