Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ddeinosoriaid?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ddeinosoriaid?

Ateb y Beibl

 Does ’na ddim cyfeiriad penodol at ddeinosoriaid yn y Beibl. Er hynny, mae’r Beibl yn dweud mai Duw a “greodd bob peth.” Felly, mae’n amlwg eu bod nhw ymhlith y pethau a gafodd eu creu ganddo. a (Datguddiad 4:​11) Er nad yw deinosoriaid yn cael eu crybwyll yn benodol ynddo, efallai bod y Beibl yn eu cynnwys yn y grwpiau hyn:

  •   “Creaduriaid enfawr sydd yn y môr.”—Genesis 1:21.

  •   “Holl ymlusgiaid y tir.”—Genesis 1:25, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

  •   “Bwystfilod gwyllt.”—Genesis 1:25, BCND.

A wnaeth y deinosoriaid esblygu o anifeiliaid eraill?

 Fe fydden ni’n disgwyl i ddeinosoriaid ymddangos yn raddol yng nghofnod y ffosiliau petaen nhw wedi esblygu. Ond, yr hyn a welwn yw eu bod yn ymddangos yn sydyn. Mae hyn yn cytuno â geiriau’r Beibl sy’n dweud bod Duw wedi creu pob anifail. Er enghraifft, mae Salm 146:6 yn disgrifio Duw fel yr Un “a wnaeth y nefoedd, y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw.”

Pa gyfnod oedd y deinosoriaid yn byw ynddo?

 Yn ôl y Beibl, cafodd anifeiliaid y môr a’r tir eu creu yn ystod pumed a chweched dydd (neu gyfnod) y greadigaeth. b (Genesis 1:20-25, 31) Felly, mae’r Beibl yn cyd-fynd ag ymddangosiad y deinosoriaid a’u bodolaeth dros amser maith.

A oedd Behemoth a Lefiathan yn ddeinosoriaid?

 Nac oedden. Er nad yw’n bosib bod yn hollol sicr ynglŷn ag enwi’r anifeiliaid hyn yn llyfr Job, mae llawer yn tybio mai’r hipopotamws yw Behemoth a’r crocodeil yw Lefiathan. Mae’r anifeiliaid hyn yn cyd-fynd â’u disgrifiad yn yr Ysgrythurau. (Job 40:15-23; 41:1, 14-17, 31) Beth bynnag, ni all yr enwau “Behemoth” a “Lefiathan” gyfeirio at ddeinosoriaid. Dywedodd Duw wrth Job i wylio’r anifeiliaid hyn yn bersonol, ac roedd Job yn byw ymhell ar ôl i’r deinosoriaid ddiflannu o’r tir.—Job 40:16; 41:8.

Beth ddigwyddodd i’r deinosoriaid?

 Does dim sôn yn y Beibl am ddiflaniad y deinosoriaid. Ond, mae’n dweud bod pob peth wedi ei greu yn ôl ewyllys Duw, felly mae’n amlwg fod gan Dduw bwrpas dros greu’r deinosoriaid. (Datguddiad 4:11) Pan gafodd y pwrpas hwnnw ei gyflawni, caniataodd Duw i’r deinosoriaid farw allan.

a Mae cofnod y ffosiliau yn profi’n bendant bod deinosoriaid wedi bodoli. Mae’r cofnod hwnnw’n dangos bod nifer helaeth o ddeinosoriaid wedi bodoli am gyfnod, a’u bod nhw’n amrywio’n fawr o ran eu ffurf a’u maint.

b Yn y Beibl gall y gair “dydd” gyfeirio at gyfnodau o filoedd o flynyddoedd.—Genesis 1:31; 2:1-4; Hebreaid 4:4, 11.