Neidio i'r cynnwys

Heddwch ar y Ddaear—Sut Bydd yn Cael ei Sefydlu?

Heddwch ar y Ddaear—Sut Bydd yn Cael ei Sefydlu?

Ateb y Beibl

 Daw heddwch ar y ddaear, nid drwy ymdrechion dynion, ond drwy Deyrnas Dduw, llywodraeth nefol gyda Iesu Grist yn ben arni. Sylwch beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am y gobaith hyfryd hwn.

  1.   Bydd Duw yn “dod â rhyfeloedd i ben drwy’r ddaear gyfan,” gan gyflawni ei addewid i ddod â “heddwch ar y ddaear i’r rhai sydd â’u bwriad yn dda.”—Salm 46:9; Luc 2:14, Y Ffordd Newydd.

  2.   Bydd Teyrnas Dduw yn rheoli o’r nefoedd dros y ddaear gyfan. (Daniel 7:14) A hithau’n un llywodraeth dros y byd i gyd, bydd hyn yn fodd i gael gwared ar genedlaetholdeb, sydd wrth wraidd llawer o wrthdaro.

  3.   Mae Iesu, Rheolwr Teyrnas Dduw, yn cael ei alw’n “Tywysog Heddwch.” Bydd yn sicrhau bod yr addewid am ei deyrnasiad yn dod yn wir: “Ni bydd diwedd ar . . . ei heddwch.”—Eseia 9:6, 7, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

  4.   Fydd pobl sydd ddim yn rhoi’r gorau i gwffio ddim yn cael byw o dan y Deyrnas, am fod Duw’n ‘casáu’r rhai sy’n hoffi trais.’—Salm 11:5; Diarhebion 2:22.

  5.   Mae Duw yn dysgu ei bobl sut i fyw mewn heddwch. Yn ôl y Beibl, dyma ganlyniad yr hyfforddiant: “Byddan nhw’n curo eu cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.”—Eseia 2:3, 4.

 O gwmpas y byd, mae miliynau o Dystion Jehofa eisoes yn dysgu oddi wrth Dduw sut i fod yn heddychlon. (Mathew 5:9) Er inni berthyn i lawer o grwpiau ethnig gwahanol ac yn byw mewn dros 230 o wahanol wledydd, gwrthodwn godi arfau yn erbyn ein cyd-ddyn.

Mae Tystion Jehofa yn dysgu ffyrdd heddwch heddiw