Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Jerwsalem Newydd?

Beth Yw Jerwsalem Newydd?

Ateb y Beibl

 Mae “Jerwsalem Newydd,” ymadrodd sy’n ymddangos ddwywaith yn y Beibl, yn ddinas symbolaidd sy’n cynrychioli’r grŵp o ddilynwyr Iesu sy’n mynd i’r nefoedd i lywodraethu gydag ef yn Nheyrnas Dduw. (Datguddiad 3:12; 21:2) Mae’r Beibl yn dangos y gall y grŵp hwn gael ei adnabod fel priodferch Crist.

Sut i adnabod Jerwsalem Newydd

  1.   Mae Jerwsalem Newydd yn y nefoedd. Ym mhob ymadrodd sy’n sôn am Jerwsalem Newydd yn y Beibl, dywedir iddi ddod i lawr o’r nefoedd, lle mae’r angylion yn gwarchod giatiau’r ddinas. (Datguddiad 3:12; 21:2, 10, 12) Hefyd, mae maint enfawr y ddinas yn profi na allai fod ar y ddaear. Mae’n giwb yn mesur ‘12,000 o ystadau’ o’i chwmpas. a (Datguddiad 21:16, Beibl Cysegr-lân) Byddai pob ochr felly bron yn 560 cilomedr (350 milltir) o uchder, yn ymestyn i’r gofod.

  2.   Mae Jerwsalem Newydd wedi ei ffurfio o grŵp o ddilynwyr Iesu, sef priodferch Crist. Mae Jerwsalem Newydd yn cael ei hadnabod fel “y briodferch . . . sef gwraig yr Oen.” (Datguddiad 21:9, 10) Yn y disgrifiad symbolaidd hwn, Iesu Grist yw’r Oen. (Ioan 1:29; Datguddiad 5:12) Mae “gwraig yr Oen,” priodferch Crist, yn cynrychioli Cristnogion a fydd wedi eu huno ag Iesu yn y nefoedd. Mae’r Beibl yn cymharu’r berthynas sydd rhwng Iesu a’r Cristnogion hyn â’r berthynas sydd rhwng gŵr a gwraig. (2 Corinthiaid 11:2; Effesiaid 5:23-25) Hefyd, mae “enwau deuddeg apostol yr Oen” wedi eu hysgrifennu ar gerrig sylfaen Jerwsalem Newydd. (Datguddiad 21:14, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae’r manylyn hwn yn helpu i gadarnhau beth yw Jerwsalem Newydd, gan fod Cristnogion sy’n cael eu galw i’r nefoedd i fyw wedi eu ‘hadeiladu ar sylfaen yr apostolion a’r proffwydi.’—Effesiaid 2:20.

  3.   Mae Jerwsalem Newydd yn rhan o lywodraeth. Jerwsalem gynt oedd prif ddinas Israel. Yno gwnaeth y Brenin Dafydd, ei fab Solomon, a’u disgynyddion lywodraethu “ar orsedd yr ARGLWYDD.” (1 Cronicl 29:23) Roedd Jerwsalem, a’i gelwir yn “ddinas sanctaidd,” felly’n cynrychioli Teyrnas Dduw yn llinach Dafydd. (Nehemeia 11:1, BCND) Mae Jerwsalem Newydd, a’i gelwir hefyd yn “ddinas sanctaidd,” wedi ei ffurfio o’r rhai sy’n ymuno ag Iesu yn y nefoedd i lywodraethu fel brenhinoedd dros y ddaear.​—Datguddiad 5:​9, 10; 21:2.

  4.   Mae Jerwsalem Newydd yn dod â bendithion i bobl ar y ddaear. Mae Jerwsalem Newydd yn cael ei disgrifio “yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd,” sy’n dangos bod Duw yn ei defnyddio i weithredu mewn materion y tu allan i’r nefoedd. (Datguddiad 21:2) Mae’r ymadrodd hwn yn cysylltu Jerwsalem Newydd â Theyrnas Dduw, sy’n cael ei defnyddio gan Dduw i gyflawni ei ewyllys “ar y ddaear fel yn y nef.” (Mathew 6:10, BCND) Mae pwrpas Duw ar gyfer pobl ar y ddaear yn cynnwys y bendithion hyn:

    •   Dileu pechod. Mae “afon o ddŵr bywiol” yn llifo o Jerwsalem Newydd ac yn cynnal “coed y bywyd” sydd “yn iacháu y cenhedloedd.” (Datguddiad 22:1, 2) Bydd y gwellhad corfforol ac ysbrydol hwn yn dileu pechod ac yn galluogi pobl i gael bywyd perffaith, fel roedd Duw wedi bwriadu’n wreiddiol.—Rhufeiniaid 8:21.

    •   Perthynas dda rhwng Duw a dyn. Pechod sydd wedi gwahanu pobl oddi wrth Dduw. (Eseia 59:2) Bydd dilead pechod yn caniatáu cyflawniad cyfan y broffwydoliaeth hon: “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw’n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.”—Datguddiad 21:3.

    •   Diwedd ar ddioddefaint a marwolaeth. Drwy gyfrwng ei Deyrnas, bydd Duw yn “sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.”—Datguddiad 21:4.

a Roedd ystad yn fesur o hyd a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid, yn gyfartal i 185 metr (607 troedfedd).