Neidio i'r cynnwys

Pwy Yw Jehofa?

Pwy Yw Jehofa?

Ateb y Beibl

 Jehofa yw gwir Dduw y Beibl, Creawdwr pob peth. (Datguddiad 4:​11) Dyma’r Duw yr oedd Abraham, Moses, a hefyd Iesu yn ei addoli. (Genesis 24:27; Exodus 15:1, 2; Ioan 20:17) Y mae’n Dduw, nid i un grŵp o bobl yn unig, ond i bawb “dros y byd i gyd.”​—Salm 47:2.

 Jehofa yw enw unigryw Duw yn y Beibl. (Exodus 3:​15; Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Mae’r enw yn tarddu o ferf Hebraeg sy’n golygu “bod,” ac mae nifer o ysgolheigion yn awgrymu mai ystyr yr enw yw “Mae Ef yn Peri i Fod.” Mae’r diffiniad yn addas felly ar gyfer Jehofa gan mai Ef yw’r Creawdwr a’r Un sy’n cyflawni ei bwrpas. (Eseia 55:10, 11) Mae’r Beibl hefyd yn ein helpu ni i ddod i adnabod y Person y tu ôl i’r enw Jehofa, ac i ddeall ei brif rinwedd, sef cariad.—Exodus 34:5-7; Luc 6:35; 1 Ioan 4:8.

 Mae’r enw Jehofa yn gyfieithiad o’r enw Hebraeg am Dduw, y Tetragramaton, sef y pedair llythyren יהוה (IHWH). Nid ydyn ni’n gwybod yn union sut yr oedd pobl yn ynganu’r enw. Sut bynnag, mae hen hanes i’r ffurf Jehofa mewn llawer iawn o ieithoedd. Mae’n ymddangos am y tro cyntaf yn Saesneg yng nghyfieithiad William Tyndale o’r Beibl ym 1530. Y tro cyntaf i enw personol Duw gael ei drosi mewn Beibl Cymraeg oedd yng nghyfieithiad William Salesbury o’r Salmau ym 1567. a

Pam nad oes neb yn gwybod beth oedd ynganiad enw Duw yn yr hen Hebraeg?

 Roedd yr hen Hebraeg yn cael ei hysgrifennu heb lafariaid, gan ddefnyddio cytseiniaid yn unig. Roedd siaradwyr Hebraeg yn gwybod pa lafariaid i’w dweud wrth ddarllen. Sut bynnag, ar ôl i’r Ysgrythurau Hebraeg (yr “Hen Destament”) gael eu cwblhau, roedd rhai Iddewon yn dechrau credu yn ofergoelus na ddylid dweud enw Duw yn uchel. Wrth ddarllen yr Ysgrythurau, roedden nhw’n dweud geiriau eraill megis “Arglwydd” neu “Dduw” yn lle’r enw dwyfol. Wrth i’r canrifoedd fynd heibio, lledaenodd yr agwedd ofergoelus honno, ac yn y pen draw aeth yr ynganiad gwreiddiol yn angof. b

 Mae rhai yn credu mai “Iahwe,” neu “Iafe,” yw’r ynganiad cywir, ond mae eraill yn cynnig ffurfiau gwahanol. Mae un o Sgroliau’r Môr Marw, sy’n cynnwys rhan o Lefiticus yn yr iaith Roeg, yn trawslythrennu’r enw dwyfol yn Iao. Mae ysgrifenwyr cynnar yr iaith Roeg hefyd yn awgrymu’r ffurfiau Iae, Iabeʹ, ac Iaweʹ, ond ni ellir profi mai yr un o’r rhain oedd yr ynganiad cywir yn yr hen Hebraeg. c

Camsyniadau am enw Duw yn y Beibl

 Camsyniad: Ychwanegu’r enw mae’r cyfieithiadau sy’n defnyddio “Jehofa.”

 Ffaith: Mae enw Duw yn Hebraeg ar ffurf y Tetragramaton yn ymddangos tua 7,000 o weithiau yn y Beibl. d Mae’r rhan fwyaf o gyfieithiadau yn dileu enw Duw a rhoi teitlau megis “Arglwydd” yn ei le. Er enghraifft, yn y Rhagarweiniad i’r Hen Destament, dywed y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig: “Cadwyd y dull traddodiadol o drosi’r enw dwyfol Iafe (Yahweh) yn ARGLWYDD (mewn priflythrennau).”

 Camsyniad: Nid oes angen enw unigryw ar y Duw Hollalluog.

 Ffaith: Duw ei hun a ysbrydolodd ysgrifenwyr y Beibl i ddefnyddio ei enw filoedd o weithiau, ac mae’n dweud wrth ei addolwyr am ddefnyddio yr enw hwnnw. (Eseia 42:8; Joel 2:32; Malachi 3:16; Rhufeiniaid 10:13) Yn wir, condemniodd Duw y gau broffwydi a oedd yn ceisio gwneud i bobl anghofio ei enw.​—Jeremeia 23:27, BCND.

 Camsyniad: Yn dilyn traddodiad Iddewig, dylid dileu enw Duw o’r Beibl.

 Ffaith: Mae’n wir bod rhai ysgrifenyddion Iddewig wedi gwrthod ynganu’r enw dwyfol. Ond ni wnaethon nhw ddileu’r enw o’u copïau o’r Beibl. A sut bynnag, nid yw Duw eisiau inni ddilyn traddodiadau dynol sy’n mynd yn groes i’w orchmynion.​—Mathew 15:​1-3.

 Camsyniad: Ni ddylid defnyddio’r enw dwyfol yn y Beibl, gan nad ydyn ni’n gwybod yn union sut i’w ynganu yn Hebraeg.

 Ffaith: Mae’r ddadl hon yn rhagdybio bod Duw yn disgwyl i bobl ynganu ei enw yn union yr un fath ni waeth pa iaith y maen nhw’n ei siarad. Sut bynnag, mae’r Beibl yn dangos bod addolwyr Duw yn y gorffennol a oedd yn siarad ieithoedd gwahanol yn ynganu enwau priod yn wahanol.

 Ystyriwch, er enghraifft, Josua, un o farnwyr Israel. Yn y ganrif gyntaf, byddai Cristnogion Hebraeg eu hiaith yn ei alw’n Iehoshwa, tra byddai siaradwyr Groeg yn dweud Iesws. Mae’r Beibl yn defnyddio cyfieithiad Groeg o enw Hebraeg Josua, sy’n dangos bod y Cristnogion, yn synhwyrol iawn, wedi dewis defnyddio ffurfiau ar enwau priod a oedd yn gyfarwydd yn eu hiaith nhw.​—Actau 7:​45; Hebreaid 4:8.

 Gellir dilyn yr un egwyddor wrth ddefnyddio’r enw dwyfol. Mae rhoi ei briod le i enw Duw yn y Beibl yn bwysicach o lawer na’r union ynganiad.

a Fe ddefnyddiodd Tyndale y ffurf “Iehouah” yn ei gyfieithiad o’r pum llyfr cyntaf yn y Beibl. Defnyddiodd Salesbury y ffurf “Iehováh” yn Salm 83:18. Wrth i’r iaith Gymraeg ddatblygu, cafodd sillafiad yr enw dwyfol ei foderneiddio. Er enghraifft, ym 1588, defnyddiodd William Morgan y ffurf “Iehofa.” Yn ystod y canrifoedd sy’n dilyn, roedd gwahanol fersiynau diwygiedig o’r Beibl Cysegr-lân yn defnyddio’r ffurf “Jehofah.” Ym 1853, defnyddiodd Thomas Briscoe y ffurf “Iehofah” wrth gyfieithu llyfr Eseia. Ym 1936, fe ailddefnyddiodd Lewis Valentine y ffurf “Iehofa” yn ei gyfieithiad o’r Salmau. Hefyd, mae cyfieithiadau mwy diweddar o’r Beibl yn defnyddio’r ffurf “Jehofa” ac fe geir enghraifft o hyn yn Barnwyr 6:24.

b Dywed y New Catholic Encyclopedia, Ail Argraffiad, Cyfrol 14, tudalennau 883-​884: “Rywbryd ar ôl y Gaethglud, dechreuwyd rhoi parch arbennig i’r enw Iahwe, a daeth hi’n arfer rhoi’r geiriau ADONAI neu ELOHIM yn ei le.”

c Am fwy o wybodaeth, gweler pennod 1, “Yr Enw Dwyfol yn yr Ysgrythurau Hebraeg,” yn y llyfryn Cymorth i Astudio Gair Duw.

d Gweler Theological Lexicon of the Old Testament, Cyfrol 2, tudalennau 523-​524.