Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Alcohol? Ydy Yfed Alcohol yn Bechod?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Alcohol? Ydy Yfed Alcohol yn Bechod?

Ateb y Beibl

 Dydy yfed alcohol yn gymedrol ddim yn bechod. Mae’r Beibl yn disgrifio gwin fel rhodd oddi wrth Dduw sydd yn un o bleserau bywyd. (Salm 104:14, 15; Pregethwr 3:​13; 9:7) Mae’r Beibl hefyd yn cydnabod bod gwerth meddygol i win.​—1 Timotheus 5:​23.

 Roedd Iesu yn yfed gwin pan oedd ef ar y ddaear. (Mathew 26:29; Luc 7:​34) Un o wyrthiau enwocaf Iesu oedd troi dŵr yn win mewn gwledd briodas.​—Ioan 2:​1-​10.

Peryglon goryfed

 Er bod y Beibl yn cyfeirio at yr agweddau cadarnhaol sy’n perthyn i win, y mae’n condemnio goryfed a meddwi. Felly bydd Cristion sy’n dewis yfed alcohol yn gwneud hynny’n gymedrol ac yn gyfrifol. (1 Timotheus 3:8; Titus 2:​2, 3) Mae’r Beibl yn rhoi sawl rheswm dros beidio â goryfed.

  •   Mae’n amharu ar y gallu i feddwl yn glir ac i benderfynu’n ddoeth. (Diarhebion 23:29-​35) Ni all rhywun sydd wedi meddwi ufuddhau i’r gorchmynion yn y Beibl i garu Duw â’i “holl feddwl” ac i gyflwyno ei hun “yn aberth byw​—un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo.”​—Mathew 22:37; Rhufeiniaid 12:1.

  •   Mae goryfed yn amharu ar ein gallu i ymatal. Mae’n “dwyn ymaith y deall,” hynny yw, yr awydd i wneud beth sy’n iawn.​—Hosea 4:​11, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Effesiaid 5:​18.

  •   Gall arwain at broblemau difrifol o ran arian ac iechyd.​—Diarhebion 23:21, 31, 32.

  •   Nid yw goryfed a meddwi yn plesio Duw.​—Diarhebion 23:20; Galatiaid 5:​19-​21.

Faint yw gormod?

 Mae rhywun wedi cael gormod o alcohol pan fydd ei yfed yn peryglu ei hun neu eraill. Yn ôl y Beibl, ydy meddwi yn golygu yfed nes eich bod chi’n syrthio yn anymwybodol? Nac ydy, gall rhywun fod yn feddw pan fydd yn cerdded yn sigledig, yn siarad yn aneglur, yn drysu, ac yn mynd yn flin. (Job 12:25; Salm 107:27; Diarhebion 23:29, 30, 33) Hyd yn oed heb feddwi, gall rhywun sy’n diota, sef yfed yn gyson ac yn aml, wynebu canlyniadau difrifol.​—Luc 21:34, 35, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

Ymwrthod yn llwyr

 Yn ôl y Beibl, mae yna adegau pan ddylai Cristnogion beidio ag yfed alcohol o gwbl.

  •   Os bydd yfed yn achosi i eraill faglu.​—Rhufeiniaid 14:21.

  •   Os bydd yfed alcohol yn erbyn cyfraith y wlad.​—Rhufeiniaid 13:1.

  •   Os na all rhywun reoli ei yfed. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n dioddef o alcoholiaeth neu sydd â phroblemau eraill yn gysylltiedig ag alcohol fod yn fodlon cymryd camau llym.​—Mathew 5:​29, 30.