Neidio i'r cynnwys

WEDI EI DDYLUNIO?

Brwsh Glanhau y Morgrugyn Coedysol

Brwsh Glanhau y Morgrugyn Coedysol

 Os yw trychfilyn am hedfan, dringo, a synhwyro’r hyn sydd o’i gwmpas, mae’n rhaid iddo gadw’n lân. Er enghraifft, mae llwch ar deimlyddion morgrugyn yn amharu ar ei allu i lywio, i gyfathrebu, i arogli, ac i ddilyn trywydd. Felly “fyddwch chi byth yn gweld pryfed budr,” meddai’r swolegydd Alexander Hackmann. “Maen nhw’n arbenigwyr ar gadw eu hunain yn lân.”

 Ystyriwch: Astudiodd Hackmann a’i gyd-weithwyr y ffordd y mae un rhywogaeth o forgrug coedysol (Camponotus rufifemur) yn glanhau eu teimlyddion. Gwelon nhw fod y morgrugyn yn tynnu gronynnau mân a mawr o’i deimlyddion drwy blygu ei goes i weithredu fel clamp a thynnu’r teimlyddion trwyddo. Mae blew bras yn y clamp yn cael gwared ar y gronynnau mwyaf. Tynnir gronynnau llai gan grib sydd â bylchau rhwng ei dannedd yn union yr un maint â’r blew ar deimlyddion y morgrugyn. Yna mae’r gronynnau lleiaf​—hyd at 1/80fed ran trwch blewyn dynol​—yn cael eu tynnu gan frwsh sy’n feinach fyth.

 Gwyliwch forgrugyn coedysol yn glanhau ei deimlyddion

 Mae Hackmann a’i dîm yn credu y byddai modd defnyddio system debyg i’r un sydd gan y morgrugyn ym myd diwydiant. Er enghraifft, byddai’n ddefnyddiol ar gyfer cadw popeth yn lân yn y broses o gynhyrchu cydrannau microelectronig a lled-ddargludyddion, lle mae hyd yn oed y mymryn lleiaf o lwch yn achosi diffygion.

 Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygu a wnaeth system glanhau teimlyddion y morgrugyn coedysol? Neu a gafodd ei dylunio?