Neidio i'r cynnwys

WEDI EI DDYLUNIO?

Sugnolyn yr Atalbysgodyn

Sugnolyn yr Atalbysgodyn

 Mae’r atalbysgodyn, neu’r remora, yn fath o bysgodyn sugno sy’n gallu glynu’n dynn wrth greaduriaid môr eraill a rhyddhau ei hun yn hawdd heb niweidio’r creadur hwnnw. Mae’r galluoedd hyn wedi bod o ddiddordeb mawr i ymchwilwyr.

 Ystyriwch: Mae’r atalbysgodyn yn glynu ei hun wrth forgathod, siarcod, crwbanod y môr, morfilod, a chreaduriaid eraill y môr, ni waeth beth yw ansawdd eu croen neu eu cragen. Mae’r atalbysgodyn yn bwydo ar barasitiaid ac ar weddillion bwyd y creadur mae wedi glynu wrtho​—a hyn i gyd tra ei fod yn mwynhau siwrnai hamddenol a chwbl ddiogel rhag ysglyfaethwyr. Mae ymchwilwyr yn astudio sugnolyn, neu ddisg sugno, yr atalbysgodyn i weld sut mae’n galluogi’r pysgodyn i lynu’n ysgafn ond yn dynn wrth arwynebau gwahanol.

 Atalbysgod yn cyd-deithio â siarc morfilaidd

 Mae disg sugno hirgrwn yr atalbysgodyn wedi ei leoli ar gefn ei ben. Mae ymyl allanol y disg yn drwchus ac yn feddal fel ei fod yn gallu ffurfio sêl dynn i gadw’r sugnedd. O fewn y disg, mae rhesi o fflapiau sydd â phigau mân a chaled. Pan fydd y fflapiau ar i fyny, mae’r pigau yn cyffwrdd croen y creadur arall, gan greu ffrithiant. Mae’r cyfuniad o sugnedd a ffrithiant yn cadw’r atalbysgodyn yn sownd yn ei le ni waeth pa mor sydyn mae’r creadur yn mynd neu pa mor sydyn mae’n newid cyfeiriad.

 Mae gwyddonwyr wedi rhyfeddu gymaint ar ddisg gludiog yr atalbysgodyn, maen nhw wedi dylunio un artiffisial. Gall eu dyfais hirgrwn lynu wrth amrywiaeth o arwynebau. Pan geisiodd yr ymchwilwyr ei dynnu i ffwrdd, daliodd yn sownd yn erbyn grym oedd gannoedd o weithiau’n fwy na phwysau’r disg!

 Gall technoleg sydd wedi ei seilio ar sugnolyn yr atalbysgodyn gael ei defnyddio mewn llawer o ffyrdd. Gall hyn gynnwys ei defnyddio fel tagiau ymchwil ar gyfer creaduriaid y môr, wrth astudio dyfnderoedd y cefnfor, ac fel ffordd o lynu goleuadau neu offer wrth arwynebau tanddwr pontydd neu longau.

 Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai rhywbeth wnaeth esblygu yw sugnolyn yr atalbysgodyn? Neu a gafodd ei ddylunio?