Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT

Plant a Ffonau Clyfar—Rhan 1: A Ddylwn i Roi Ffôn Clyfar i Fy Mhlentyn?

Plant a Ffonau Clyfar—Rhan 1: A Ddylwn i Roi Ffôn Clyfar i Fy Mhlentyn?

 Mae gan fwy a mwy o blant ffonau clyfar, a ac mae llawer ohonyn nhw’n defnyddio eu ffonau i fynd ar-lein ym mhreifatrwydd eu hystafelloedd gwely. Beth ydy’r risgiau o adael i’ch plentyn gael ffôn clyfar? Beth yw’r manteision? Faint o amser sgrin sy’n rhesymol?

 Beth ddylech chi ei wybod?

 Y Manteision

  •   Diogelwch i blant, heddwch meddwl i rieni. “’Dyn ni’n byw mewn byd peryglus,” meddai Bethany, mam i ddau o blant yn eu harddegau. “Mae’n hanfodol bod plant yn gallu cysylltu â’u rhieni.”

     Mae mam o’r enw Catherine yn mynd ymhellach: “Gyda rhai apiau, mae’n bosib cysylltu â ffôn eich plentyn a gweld ble mae e. Os ydy e’n gyrru, gallwch hyd yn oed weld pa mor glou mae’n mynd.”

  •   Help ar gyfer gwaith ysgol. “Mae plant yn cael gwaith cartref dros e-byst neu negeseuon testun, a gallan nhw gyfathrebu gyda’u hathrawon yn yr un ffordd,” meddai mam o’r enw Marie.

 Y Risgiau

  •   Gormod o amser sgrin. Yn aml, mae pobl ifanc yn treulio sawl awr bob dydd ar eu ffonau. Mewn gwirionedd, mae rhieni yn treulio tua’r un amser ar eu dyfeisiau ag ydyn nhw yn cyfathrebu â’u plant. Mae un arbenigwr yn disgrifio bod teuluoedd wedi troi “yn gasgliad o bobl ddieithr sy’n sownd wrth swp o beiriannau.” b

  •   Pornograffi. Yn ôl un amcangyfrif, bob mis mae mwy na 50 y cant o arddegwyr yn chwilio am bornograffi. Dydy hynny ddim yn ein synnu wrth feddwl am ba mor hawdd ydy cael hyd iddo ar ddyfais symudol. Dywed William, tad i ddau arddegwr, “os ydy rhieni yn caniatáu i’w plentyn gael ffôn clyfar, maen nhw, yn anfwriadol, yn agor y ffordd i’w plentyn gael hyd i bornograffi ble bynnag mae’n mynd.”

  •   Dibyniaeth. Mae gan lawer o bobl gysylltiad emosiynol â’u ffonau. Os ydyn nhw’n eu colli, maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cynhyrfu, yn ansicr am beth i’w wneud, neu hyd yn oed yn teimlo’n sâl. Mae rhai rhieni yn nodi bod eu plant yn anghwrtais wrth ddefnyddio eu dyfeisiau. “Weithiau, pan dw i eisiau siarad â fy mab,” meddai Carmen, “mae’n rholio ei lygaid neu’n dweud rhywbeth amharchus oherwydd dydy o ddim yn hoffi pan fydd rhywun yn torri ar ei draws.”

  •   Risgiau ychwanegol. Mae defnyddio ffonau clyfar yn dod â risgiau fel seiberfwlio a secstio, ac yn gallu arwain at osgo gwael a diffyg cwsg sy’n achosi nifer o broblemau iechyd. Mae rhai pobl ifanc yn defnyddio ap cuddiedig, neu “ghost app,” sy’n ymddangos yn ap diniwed fel cyfrifiannell, er mwyn cuddio pethau dydyn nhw ddim eisiau i’w rhieni eu gweld.

     Mae Daniel, tad i ferch yn ei harddegau, yn crynhoi’r peth fel hyn: “Mae ffôn clyfar yn agor y drws i bopeth sydd ar gael ar y we—y da a’r drwg.”

 Beth ddylech chi ei ofyn?

  •   ‘Ydy fy mhlentyn angen ffôn clyfar?’

     Dywed y Beibl: ‘Mae’r person call yn ofalus.’ (Diarhebion 14:15) Gyda hynny mewn cof, gofynnwch:

     ‘A fyddai’n syniad da i fy mhlentyn gael ffôn clyfar oherwydd diogelwch neu resymau eraill? Ydw i wedi pwyso a mesur y manteision a’r risgiau? Oes ’na opsiwn arall heblaw am ffôn clyfar?’

     “Mae ffonau syml dal ar gael,” meddai tad o’r enw Todd, “a gallwch gysylltu â’ch plentyn drwy decstio a ffonio. Ac mae’n arbed lot o arian.”

  •   ‘Ydy fy mhlentyn yn barod am y cyfrifoldeb?’

     Dywed y Beibl: “Mae calon yr un doeth yn ei arwain yn y ffordd iawn.” (Pregethwr 10:2, New World Translation) Gyda hynny mewn cof, gofynnwch:

     ‘Beth sy’n fy ngwneud i’n hyderus fy mod i’n gallu trystio fy mhlentyn? Ydyn ni eisoes yn siarad yn agored? Ydy fy mhlentyn wastad yn onest, er enghraifft am bwy ydy ei ffrindiau? Ydy fy mhlentyn yn gwybod yn barod sut i reoli ei ddefnydd o ddyfeisiau eraill, gan gynnwys y teledu, tabled, neu gyfrifiadur?’ “Mae ffôn clyfar yn ddefnyddiol iawn, ond gall fod yn beryglus,” meddai mam o’r enw Serena. “Meddyliwch am y cyfrifoldeb byddech chi’n ei roi ar blentyn mor ifanc.”

  •   ‘Ydw i’n barod am y cyfrifoldeb?’

     Dywed y Beibl: “Dysga blentyn y ffordd orau i fyw.” (Diarhebion 22:6) Gyda hynny mewn cof, gofynnwch:

     ‘Ydw i’n gwybod digon am y ffôn i helpu fy mhlentyn i ddeall ac i osgoi peryglon posib? Ydw i’n gwybod sut i ddefnyddio’r gosodiadau rheolaeth rhieni? Sut galla i helpu fy mhlentyn i wneud dewisiadau doeth wrth ddefnyddio’r ffôn?’ “Dw i wedi gweld gormod o rieni yn rhoi ffôn clyfar i’w plant, ond heb gadw golwg ar sut maen nhw’n ei ddefnyddio,” meddai Daniel, tad y soniwyd amdano gynt.

 Y gwir yw: Mae plant angen hyfforddiant i ddefnyddio ffôn clyfar mewn ffordd gyfrifol. “Mae’n ormod i ddisgwyl i’n plant wrthod y temtasiwn i orddefnyddio’r dyfeisiau hyn, yn enwedig heb arolygiaeth eu rhieni,” meddai’r llyfr Indistractable.

a Yn yr erthygl hon, mae’r term “ffôn clyfar” yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at ffonau symudol sy’n gallu mynd ar-lein.

b O’r llyfr Disconnected, gan Thomas Kersting.