Actau’r Apostolion 5:1-42

  • Ananias a Saffeira (1-11)

  • Apostolion yn gwneud llawer o arwyddion (12-16)

  • Carcharu a rhyddhau (17-21a)

  • Mynd o flaen y Sanhedrin eto (21b-32)

    • ‘Ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion’ (29)

  • Cyngor Gamaliel (33-40)

  • Pregethu o dŷ i dŷ (41, 42)

5  Fodd bynnag, gwerthodd dyn o’r enw Ananias, ynghyd â’i wraig Saffeira, rywfaint o dir.  Ond fe wnaeth gadw peth o’r tâl yn ôl, ac roedd ei wraig yn gwybod am y gyfrinach, ac fe ddaeth â rhan o’r tâl yn unig a’i osod wrth draed yr apostolion.  Ond dywedodd Pedr: “Ananias, pam mae Satan wedi dylanwadu arnat ti i ddweud celwydd heb gywilydd wrth yr ysbryd glân ac i gadw peth o’r tâl am y cae yn ôl yn gyfrinachol?  Cyn iti ei werthu, onid oedd y tir yn eiddo i ti? Ac ar ôl iddo gael ei werthu, onid oedd yr arian yn dy law di? Pam rwyt ti wedi rhoi lle yn dy galon i weithred o’r fath? Rwyt ti wedi dweud celwydd, nid wrth ddynion, ond wrth Dduw.”  Wrth glywed y geiriau hyn, syrthiodd Ananias yn farw. A daeth ofn mawr ar bawb a glywodd am yr hanes.  Yna cododd y dynion ifanc, lapio ei gorff, ei gario allan, a’i gladdu.  Nawr ar ôl i ryw dair awr fynd heibio daeth ei wraig i mewn, heb wybod beth oedd wedi digwydd.  Dywedodd Pedr wrthi: “Dyweda wrtho i, a wnaeth y ddau ohonoch chi werthu’r cae am hyn a hyn?” Dywedodd hithau: “Do, dyna’r swm.”  Felly dywedodd Pedr wrthi hi: “Pam gwnaeth y ddau ohonoch chi gytuno i roi prawf ar ysbryd Jehofa? Edrycha! Mae traed y rhai a wnaeth gladdu dy ŵr wrth y drws, a byddan nhw’n dy gario dithau allan hefyd.” 10  Ar unwaith, dyma hi’n syrthio wrth ei draed a marw. Pan ddaeth y dynion ifanc i mewn a gweld ei bod hi wedi marw, gwnaethon nhw ei chario hi allan a’i chladdu wrth ymyl ei gŵr. 11  Felly daeth ofn mawr ar yr holl gynulleidfa ac ar bawb a oedd yn clywed am y pethau hyn. 12  Ar ben hynny, trwy ddwylo’r apostolion y gwnaeth llawer o arwyddion a rhyfeddodau barhau i ddigwydd ymhlith y bobl; a bydden nhw i gyd yn dod at ei gilydd yng Ngholofnres Solomon. 13  Mae’n wir nad oedd neb o’r lleill yn meiddio ymuno â nhw; er hynny, roedd y bobl yn dweud yn dda amdanyn nhw. 14  Ac roedd mwy a mwy o gredinwyr yn yr Arglwydd yn cael eu hychwanegu, niferoedd mawr o ddynion ac o ferched.* 15  Roedden nhw hyd yn oed yn dod â’r rhai sâl allan i’r prif strydoedd a’u gosod nhw yno ar welyau bychain a matresi, fel pan fyddai Pedr yn pasio heibio y byddai ei gysgod o leiaf yn disgyn ar rai ohonyn nhw. 16  Hefyd, roedd tyrfaoedd o bobl o’r dinasoedd o amgylch Jerwsalem yn dal i ddod, yn cario pobl sâl a’r rhai a oedd yn cael eu cythryblu gan ysbrydion aflan, ac fe gafodd pawb eu hiacháu. 17  Ond dyma’r archoffeiriad yn codi, a phawb oedd gydag ef o sect y Sadwceaid, ac roedden nhw’n llawn cenfigen. 18  A dyma nhw’n arestio’r apostolion a’u rhoi nhw yn y carchar cyhoeddus. 19  Ond yn ystod y nos, agorodd angel Jehofa ddrysau’r carchar, dod â nhw allan, a dweud: 20  “Ewch a safwch yn y deml, a daliwch ati i siarad â’r bobl am yr holl eiriau ynglŷn â’r bywyd hwn.” 21  Ar ôl clywed hyn, aethon nhw i mewn i’r deml ar doriad dydd a dechrau dysgu. Nawr pan gyrhaeddodd yr archoffeiriad a’r rhai gydag ef, dyma nhw’n galw ynghyd y Sanhedrin a holl gynulliad henuriaid meibion Israel, ac anfon dynion i’r carchar i ddod â’r apostolion o’u blaenau nhw. 22  Ond pan ddaeth y swyddogion yno, ni chawson nhw hyd iddyn nhw yn y carchar. Felly daethon nhw yn eu holau a rhoi eu hadroddiad, 23  gan ddweud: “Pan aethon ni i’r carchar roedd wedi ei gloi yn ddiogel, ac roedd y gwarchodwyr yn sefyll wrth y drysau, ond ar ôl ei agor, doedd neb yno.” 24  Wel, pan glywodd capten y deml a’r prif offeiriaid y geiriau hyn, roedden nhw mewn penbleth ynglŷn â beth a fyddai’n dod o hyn. 25  Ond daeth rhywun ac adrodd wrthyn nhw: “Edrychwch! Mae’r dynion y gwnaethoch chi eu rhoi yn y carchar yn y deml, yn sefyll ac yn dysgu’r bobl.” 26  Yna aeth y capten gyda’i swyddogion a dod â nhw i mewn, ond heb drais, oherwydd eu bod nhw’n ofni cael eu llabyddio gan y bobl. 27  Felly dyma nhw’n dod â nhw a’u gosod o flaen y Sanhedrin. Yna gwnaeth yr archoffeiriad eu cwestiynu nhw 28  a dweud: “Rhoddon ni orchymyn pendant i chi beidio â pharhau i ddysgu ar sail yr enw hwn, ac edrychwch! dyma chi wedi llenwi Jerwsalem â’ch dysgeidiaeth, ac rydych chi’n benderfynol o roi’r bai arnon ni am dywallt* gwaed y dyn hwn.” 29  Atebodd Pedr a’r apostolion eraill: “Mae’n rhaid i ni ufuddhau i Dduw fel rheolwr yn hytrach nag i ddynion. 30  Gwnaeth Duw ein cyndadau godi Iesu, yr un y gwnaethoch chi ei ladd a’i hoelio ar stanc.* 31  Cafodd hwn ei ddyrchafu gan Dduw at ei law dde yn Brif Arweinydd ac yn Achubwr, i roi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau. 32  Ac rydyn ni’n dystion o’r pethau hyn, ni a’r ysbryd glân a roddodd Duw i’r rhai sy’n ufuddhau iddo fel rheolwr.” 33  Pan glywson nhw hyn, roedden nhw’n gynddeiriog ac eisiau eu lladd nhw. 34  Ond fe gododd Pharisead o’r enw Gamaliel yn y Sanhedrin; athro’r Gyfraith roedd yr holl bobl yn ei barchu’n fawr, a rhoddodd y gorchymyn i anfon y dynion allan am ychydig. 35  Yna dywedodd wrthyn nhw: “Ddynion Israel, byddwch yn ofalus beth rydych chi’n bwriadu ei wneud â’r dynion hyn. 36  Er enghraifft, cyn y dyddiau hyn fe gododd Theudas, gan ddweud ei fod ef yn rhywun, ac fe wnaeth nifer o ddynion, tua 400, ymuno â’i blaid. Ond fe gafodd ei ladd, a chafodd pawb a oedd yn ei ddilyn ef eu gwasgaru ac ni ddaeth dim o’u cynllun. 37  Ar ôl hwn, cododd Jwdas y Galilead yn nyddiau’r cofrestru, a thynnu pobl i’w ddilyn. Cafodd y dyn hwnnw ei ladd hefyd, a chafodd pawb a oedd yn ei ddilyn eu gwasgaru. 38  Felly o dan yr amgylchiadau presennol, rydw i’n dweud wrthoch chi, peidiwch â gwneud dim â’r dynion hyn, ond gadewch lonydd iddyn nhw. Oherwydd os o ddynion y mae’r cynllun hwn neu’r gwaith hwn, fe fydd yn cael ei ddymchwel; 39  ond os o Dduw y mae, ni fyddwch chi’n gallu eu dymchwel nhw. Byddwch yn ofalus rhag ofn ichi ymladd yn erbyn Duw ei hun.” 40  Gyda hynny dilynon nhw ei gyngor, galw’r apostolion atyn nhw, eu chwipio* nhw, a gorchymyn iddyn nhw stopio siarad ar sail enw Iesu, a’u gollwng nhw’n rhydd. 41  Felly aethon nhw allan o olwg y Sanhedrin, yn llawenhau oherwydd eu bod nhw wedi cael eu cyfri’n deilwng i ddioddef cywilydd er mwyn ei enw. 42  A phob dydd yn y deml ac o dŷ i dŷ wnaethon nhw ddim stopio dysgu a chyhoeddi’r newyddion da am y Crist, Iesu.

Troednodiadau

Neu “o fenywod.”
Neu “arllwys.”
Neu “ar goeden.”
Neu “curo.”