Yn Ôl Luc 20:1-47

  • Herio awdurdod Iesu (1-8)

  • Dameg y ffermwyr llofruddiol (9-19)

  • Duw a Chesar (20-26)

  • Cwestiwn am atgyfodi (27-40)

  • Ydy’r Crist yn fab i Dafydd? (41-44)

  • Rhybudd yn erbyn yr ysgrifenyddion (45-47)

20  Ar un o’r dyddiau pan oedd ef yn dysgu’r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi’r newyddion da, daeth y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion gyda’r henuriaid  a dywedon nhw wrtho: “Dyweda wrthon ni, trwy ba awdurdod rwyt ti’n gwneud y pethau hyn? Neu pwy roddodd yr awdurdod hwn iti?”  Atebodd Iesu: “Fe wna innau hefyd ofyn cwestiwn i chi, a dywedwch chi wrtho i:  A oedd awdurdod Ioan i fedyddio yn dod o’r nef neu o ddynion?”*  Yna gwnaethon nhw resymu ymhlith ei gilydd, gan ddweud: “Os ydyn ni’n dweud, ‘O’r nef,’ bydd ef yn dweud, ‘Pam wnaethoch chi ddim ei gredu?’  Ond os gwnawn ni ddweud, ‘O ddynion,’ bydd yr holl bobl yn ein llabyddio ni, oherwydd eu bod nhw’n hollol grediniol fod Ioan yn broffwyd.”  Felly atebon nhw drwy ddweud nad oedden nhw’n gwybod o ble cafodd Ioan ei awdurdod.  Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dydw innau chwaith ddim yn mynd i ddweud wrthoch chi trwy ba awdurdod rydw i’n gwneud y pethau hyn.”  Yna dechreuodd ddweud y ddameg hon wrth y bobl: “Plannodd dyn winllan a’i gosod hi allan ar rent i ffermwyr, a theithiodd dramor am gryn dipyn o amser. 10  Pan oedd hi’n amser i gasglu’r ffrwythau, anfonodd ef gaethwas at y ffermwyr er mwyn iddyn nhw roi rhai o ffrwythau’r winllan iddo. Fodd bynnag, gwnaeth y ffermwyr ei anfon i ffwrdd heb ddim byd, ar ôl ei guro. 11  Ond eto anfonodd ef gaethwas arall. Gwnaethon nhw guro hwnnw hefyd a chodi cywilydd arno a’i anfon i ffwrdd heb ddim byd. 12  Unwaith eto, anfonodd drydydd caethwas; gwnaethon nhw anafu hwnnw hefyd a’i daflu allan. 13  Ar hynny, dywedodd perchennog y winllan, ‘Beth ddylwn i ei wneud? Fe wna i anfon fy mab annwyl. Byddan nhw’n debyg o barchu’r un yma.’ 14  Pan welodd y ffermwyr ef, gwnaethon nhw resymu â’i gilydd, gan ddweud, ‘Hwn yw’r etifedd. Gadewch inni ei ladd er mwyn inni gael ei etifeddiaeth.’ 15  Felly gwnaethon nhw ei daflu allan o’r winllan a’i ladd. Beth, felly, bydd perchennog y winllan yn ei wneud iddyn nhw? 16  Fe fydd yn dod ac yn lladd y ffermwyr hynny ac yn rhoi’r winllan i bobl eraill.” Pan glywson nhw hyn, dywedon nhw: “Fyddai hynny byth yn digwydd!” 17  Ond edrychodd ym myw eu llygaid a dweud: “Beth, felly, mae’r ysgrythur hon yn ei olygu: ‘Y garreg a gafodd ei gwrthod gan yr adeiladwyr, hon sydd wedi dod yn brif garreg gornel’?* 18  Bydd pob un sy’n syrthio ar y garreg hon yn cael ei falu’n deilchion. A phwy bynnag mae’r garreg yn syrthio arno, bydd yn ei fathru ef.” 19  Yna ceisiodd yr ysgrifenyddion a’r prif offeiriaid gael gafael arno ar yr union awr honno, ond roedden nhw’n ofni’r bobl, oherwydd eu bod nhw’n sylweddoli bod ei ddameg yn sôn amdanyn nhw. 20  Ac ar ôl ei wylio’n ofalus, dyma nhw’n anfon dynion roedden nhw wedi eu cyflogi’n gyfrinachol i ffugio eu bod nhw’n gyfiawn er mwyn ei dwyllo i ddweud rhywbeth anghywir, fel y byddan nhw’n gallu ei drosglwyddo i’r llywodraeth ac i awdurdod y llywodraethwr. 21  A gwnaethon nhw ei gwestiynu, gan ddweud: “Athro, rydyn ni’n gwybod dy fod ti’n siarad ac yn dysgu yn gywir a dwyt ti ddim yn dangos ffafriaeth, ond rwyt ti’n dysgu ffordd Duw yn unol â’r hyn sy’n wir: 22  Ydy hi’n gyfreithlon* i dalu trethi i Gesar neu ddim?” 23  Ond roedd Iesu’n gweld eu bod nhw’n ceisio ei dwyllo a dywedodd wrthyn nhw: 24  “Dangoswch ddenariws imi. Llun ac arysgrif pwy sydd arno?” Dywedon nhw: “Cesar.” 25  Dywedodd ef wrthyn nhw: “Ar bob cyfri, felly, talwch bethau Cesar yn ôl i Gesar ond pethau Duw i Dduw.” 26  Wel, doedden nhw ddim yn gallu ei dwyllo i ddweud rhywbeth anghywir o flaen y bobl, ond yn rhyfeddu at ei ateb, aethon nhw’n dawel. 27  Fodd bynnag, gwnaeth rhai o’r Sadwceaid, y rhai sy’n dweud nad oes atgyfodiad, ddod a gofyn iddo: 28  “Athro, ysgrifennodd Moses, ‘Os yw brawd dyn yn marw, ac yn gadael gwraig ar ôl, ond roedd ef heb blant, dylai ei frawd gymryd y wraig a magu plant ar gyfer ei frawd.’ 29  Nawr roedd ’na saith brawd. Gwnaeth yr un cyntaf briodi ond bu farw heb gael plant. 30  Felly dyma’r ail frawd 31  a’r trydydd brawd yn ei phriodi hi. Digwyddodd yr un peth i’r saith brawd; gwnaethon nhw farw heb gael plant. 32  Yn olaf bu farw’r ddynes* hefyd. 33  Felly, yn yr atgyfodiad, gwraig pwy fydd hi? Oherwydd roedd hi’n wraig i’r saith ohonyn nhw.” 34  Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Mae plant y system hon* yn priodi, 35  ond dydy’r rhai sy’n deilwng o fyw yn y system sydd i ddod ac o gael eu hatgyfodi o’r meirw ddim yn priodi. 36  Mewn gwirionedd, dydyn nhw ddim yn gallu marw mwyach, oherwydd eu bod nhw fel yr angylion, ac maen nhw’n blant i Dduw drwy fod yn blant yr atgyfodiad. 37  Ond gwnaeth hyd yn oed Moses ddatgelu yn yr hanes am y berth ddrain fod y meirw yn cael eu codi, pan wnaeth Moses alw Jehofa ‘yn Dduw Abraham ac yn Dduw Isaac ac yn Dduw Jacob.’ 38  Nid Duw’r meirw ydy ef, ond y rhai byw, oherwydd eu bod nhw i gyd yn fyw iddo ef.”* 39  Atebodd rhai o’r ysgrifenyddion trwy ddweud: “Athro, mae beth ddywedaist ti yn dda.” 40  Oherwydd doedden nhw ddim yn ddigon hyderus bellach i ofyn hyd yn oed un cwestiwn iddo. 41  Yna gofynnodd Iesu iddyn nhw: “Pam mae pobl yn dweud bod y Crist yn fab i Dafydd? 42  Oherwydd mae Dafydd ei hun yn dweud yn llyfr y Salmau, ‘Dywedodd Jehofa wrth fy Arglwydd: “Eistedda ar fy llaw dde 43  nes imi osod dy elynion yn stôl i dy draed.”’ 44  Mae Dafydd yn ei alw’n Arglwydd; sut felly mae’r Crist yn fab iddo?” 45  Yna, tra oedd yr holl bobl yn gwrando, dywedodd wrth ei ddisgyblion: 46  “Gwyliwch rhag yr ysgrifenyddion sy’n hoffi cerdded o gwmpas yn gwisgo mentyll ac sy’n hoff iawn o’r cyfarchion yn y marchnadoedd a’r seddi blaen* yn y synagogau a’r llefydd mwyaf pwysig wrth gael swper, 47  ac sy’n cymryd mantais o’r gwragedd gweddwon ac yn cymryd eu heiddo ac yn dweud gweddïau hir er mwyn i bobl gael eu gweld nhw. Bydd y rhain yn cael eu barnu’n fwy llym.”

Troednodiadau

Neu “o darddiad dynol.”
Llyth., “yn ben y gornel.”
Neu “iawn.”
Neu “y fenyw.”
Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.
Neu “o’i safbwynt ef.”
Neu “gorau.”