Yn Ôl Mathew 1:1-25

  • Achau Iesu Grist (1-17)

  • Genedigaeth Iesu (18-25)

1  Llyfr hanes* Iesu Grist,* mab Dafydd, mab Abraham:   Daeth Abraham yn dad i Isaac;daeth Isaac yn dad i Jacob;daeth Jacob yn dad i Jwda a’i frodyr;   daeth Jwda yn dad i Peres a Sera, a Tamar oedd eu mam;daeth Peres yn dad i Hesron;daeth Hesron yn dad i Ram;   daeth Ram yn dad i Aminadab;daeth Aminadab yn dad i Naason;daeth Naason yn dad i Salmon;   daeth Salmon yn dad i Boas, a Rahab oedd ei fam;daeth Boas yn dad i Obed, a Ruth oedd ei fam;daeth Obed yn dad i Jesse;   daeth Jesse yn dad i Dafydd y brenin.Daeth Dafydd yn dad i Solomon, a gwraig Ureia oedd ei fam;   daeth Solomon yn dad i Rehoboam;daeth Rehoboam yn dad i Abeia;daeth Abeia yn dad i Asa;   daeth Asa yn dad i Jehosaffat;daeth Jehosaffat yn dad i Jehoram;daeth Jehoram yn dad i Usseia;   daeth Usseia yn dad i Jotham;daeth Jotham yn dad i Ahas;daeth Ahas yn dad i Heseceia; 10  daeth Heseceia yn dad i Manasse;daeth Manasse yn dad i Amon;daeth Amon yn dad i Joseia; 11  daeth Joseia yn dad i Jechoneia ac i’w frodyr yng nghyfnod y gaethglud i Fabilon. 12  Ar ôl y gaethglud i Fabilon, daeth Jechoneia yn dad i Sealtiel;daeth Sealtiel yn dad i Sorobabel; 13  daeth Sorobabel yn dad i Abiwd;daeth Abiwd yn dad i Eliacim;daeth Eliacim yn dad i Asor; 14  daeth Asor yn dad i Sadoc;daeth Sadoc yn dad i Achim;daeth Achim yn dad i Eliwd; 15  daeth Eliwd yn dad i Eleasar;daeth Eleasar yn dad i Mathan;daeth Mathan yn dad i Jacob; 16  daeth Jacob yn dad i Joseff gŵr Mair, a hi roddodd enedigaeth i Iesu, a elwir Crist. 17  Felly, o Abraham hyd Dafydd roedd ’na 14 o genedlaethau; o Dafydd hyd y gaethglud i Fabilon roedd ’na 14 o genedlaethau; o’r gaethglud i Fabilon hyd y Crist roedd ’na 14 o genedlaethau. 18  Ond fel hyn y digwyddodd genedigaeth Iesu Grist. Yn ystod yr amser pan oedd ei fam Mair wedi ei haddo yn wraig i Joseff, fe sylweddolwyd ei bod hi’n feichiog o ganlyniad i’r ysbryd glân* cyn iddyn nhw briodi. 19  Fodd bynnag, oherwydd bod ei gŵr Joseff yn ddyn cyfiawn ac yntau heb eisiau codi cywilydd arni hi’n gyhoeddus, dyma’n bwriadu ei hysgaru yn gyfrinachol. 20  Ond, ar ôl iddo orffen meddwl am y pethau hyn, edrycha! gwnaeth angel Jehofa* ymddangos iddo mewn breuddwyd, a dweud: “Joseff fab Dafydd, paid ag ofni mynd â dy wraig Mair adref, oherwydd y mae’r un sydd ynddi wedi cael ei genhedlu drwy gyfrwng yr ysbryd glân. 21  Bydd hi’n rhoi genedigaeth i fab, a dylet ti ei alw’n Iesu,* oherwydd y bydd ef yn achub ei bobl rhag eu pechodau.” 22  Digwyddodd hyn i gyd er mwyn cyflawni’r hyn a ddywedodd Jehofa drwy ei broffwyd, gan ddweud: 23  “Edrycha! Bydd y wyryf yn beichiogi ac yn rhoi genedigaeth i fab, a byddan nhw’n ei alw yn Imaniwel,” sy’n golygu, o’i gyfieithu, “Gyda Ni y Mae Duw.” 24  Yna deffrôdd Joseff o’i gwsg a gwneud fel yr oedd angel Jehofa wedi dweud wrtho, a dyma’n mynd â’i wraig adref. 25  Ond ni chafodd gyfathrach rywiol â hi hyd nes iddi roi genedigaeth i fab, a rhoddodd ef yr enw Iesu arno.

Troednodiadau

Neu “achau.”
Neu “y Meseia; yr Un Eneiniog.”
Neu “grym gweithredol.”
Dyma’r tro cyntaf o’r 237 o weithiau y mae’r enw dwyfol, Jehofa, yn ymddangos ym mhrif destun y fersiwn hwn o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Gweler Geirfa, “Jehofa.”
Yn cyfateb i’r enw Hebraeg Jesua, neu Josua, sy’n golygu “Jehofa Yw Achubiaeth.”