Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dynion Sydd â Phryder​—Sut Gall y Beibl Helpu?

Dynion Sydd â Phryder​—Sut Gall y Beibl Helpu?

 Wrth ichi feddwl am rywun sy’n delio â phryder, a efallai rydych chi’n dychmygu rhywun sydd wedi ei barlysu gan ofn, sydd methu codi o’i wely yn y bore, neu sy’n siarad lot am ei bryderon di-ben-draw.

 Mae rhai pobl yn ymateb fel ’na wrth ddelio â phryder. Ond mae ymchwil wedi dangos bod yna tueddiad mewn eraill, yn enwedig dynion, i ymateb mewn ffordd wahanol. Yn ôl un adroddiad, mae dynion “yn fwy tebygol o ddefnyddio alcohol a chyffuriau i ymdopi â phryder. Felly, gall yr hyn sy’n ymddangos fel problem alcohol fod yn anhwylder gorbryder mewn gwirionedd. Ac mewn dynion, mae pryder yn aml yn ymddangos drwy fod yn ddig ac yn bigog.”

 Wrth gwrs, dydy dynion i gyd ddim yn ymateb yn yr un ffordd. Ond dim ots sut mae rhywun yn ymateb iddo, mae pryder yn broblem sy’n cynyddu yn ystod yr “adegau ofnadwy o anodd” hyn. (2 Timotheus 3:1) Os ydych chi’n delio â phryder, all y Beibl eich helpu?

Cyngor Ymarferol y Beibl ar Sut i Ddelio â Phryder

 Mae’r Beibl yn drysorfa o gyngor dibynadwy a all ein helpu ni pan ydyn ni’n pryderu. Ystyriwch dair esiampl.

  1.  1. “Peidiwch poeni am fory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw. Mae’n well wynebu problemau un dydd ar y tro.”—Mathew 6:34.

     Ystyr: Byddai’n ddoeth i osgoi gorbryderu am beth fydd yn digwydd (neu ddim yn digwydd) yn y dyfodol. Yn aml, ni fydd pethau mor wael ag oedden ni’n disgwyl. Weithiau, yn annisgwyl, gall pethau hyd yn oed newid er gwell.

     Triwch hyn: Meddyliwch am amser yn y gorffennol pan oeddech chi’n sicr bod rhywbeth drwg am ddigwydd—ond ni ddigwyddodd. Yna, ystyriwch eich pryderon presennol, gan geisio bod yn realistig ynglŷn â pha mor debygol ydyn nhw o ddod yn broblemau mawr.

  2.  2. “Fel haearn yn hogi haearn, mae un person yn hogi meddwl rhywun arall.”—Diarhebion 27:17.

     Ystyr: Gall pobl eraill ein helpu ni i ddelio â’n pryderon—os ydyn ni’n caniatáu iddyn nhw. Efallai byddan nhw’n gallu cynnig awgrymiadau ymarferol yn ôl eu profiadau eu hunain. Ac ar y lleiaf, gallen nhw ein helpu ni i weld y sefyllfa o safbwynt gwahanol.

     Triwch hyn: Meddyliwch am rywun, efallai ffrind sydd wedi wynebu problemau sy’n debyg i’ch rhai chi, a allai gynnig cyngor da. Gofynnwch iddo beth oedd yn ei helpu a beth doedd ddim yn gweithio.

  3.  3. “Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi.”—1 Pedr 5:7.

     Ystyr: Mae gan Dduw gonsýrn dwfn am y rhai sy’n dioddef. Mae’n ein gwahodd i weddïo arno am unrhyw beth sy’n pwyso ar ein meddyliau.

     Triwch hyn: Gwnewch restr o’r pethau sy’n achosi ichi bryderu. Yna, gweddïwch ar Dduw am eich pryderon, gan esbonio pob problem a gofyn am ei help i ddelio â nhw.

Byd Heb Bryder

 Nid cyngor ar sut i ddelio â phryder ydy’r unig beth mae’r Beibl yn ei gynnig. Mae’n addo amser yn y dyfodol agos pan fydd pryderon presennol wedi diflannu am byth. Sut bydd hynny’n cael ei gyflawni?

 Bydd Teyrnas Dduw yn cael gwared ar y pethau sy’n achosi pryder. (Datguddiad 21:4) Yn wir, o dan reolaeth y Deyrnas honno, ni fydd hyd yn oed atgofion o bryder a stres yn ein plagio ni.—Eseia 65:17.

 Dyma’r dyfodol mae Duw ‘sy’n rhoi heddwch’ eisiau i chi. (Rhufeiniaid 16:20) Mae’n addo inni: “Myfi sy’n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer, . . . bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.”—Jeremeia 29:11, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

a Yn yr erthygl hon, mae’r term “pryder” yn cyfeirio nid at gyflwr meddygol difrifol, ond at stres a gofid pob dydd sy’n gallu llethu person. Efallai byddai’r rhai sydd â chyflwr meddygol eisiau ceisio help proffesiynol.—Luc 5:31.