Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Cymorth ar ôl Trychineb yn 2021—Ddim yn Cefnu ar Ein Brodyr a’n Chwiorydd

Cymorth ar ôl Trychineb yn 2021—Ddim yn Cefnu ar Ein Brodyr a’n Chwiorydd

IONAWR 1, 2022

 Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2021, a roedd y byd dal yng ngafael y pandemig COVID-19. Fel cafodd ei esbonio yn yr erthygl “Cymorth Byd-eang ar Gyfer Pandemig Byd-eang,” rydyn ni wedi gwario miliynau o bunnoedd ar gymorth yn ystod y pandemig ac wedi ffurfio mwy na 950 o Bwyllgorau Cymorth ar ôl Trychineb.

 Y gwir amdani yw, tra oedd y pandemig yn ei anterth, digwyddodd drychinebau eraill, rhai naturiol, rhai a achoswyd gan ddyn, ac effeithiodd y rhain ar ein brodyr a’n chwiorydd o gwmpas y byd. Mewn ymateb i dros 200 o’r fath drychinebau, gwnaeth Pwyllgor Cydlynwyr y Corff Llywodraethol gymeradwyo gwario tua £6 miliwn ar ben y cymorth a roddwyd ar gyfer COVID-19. Ystyriwch sut cafodd eich cyfraniadau eu defnyddio i helpu dioddefwyr dau drychineb diweddar.

Ffrwydrad Mynydd Nyiragongo

 Ar Fai 22, 2021, dechreuodd Mynydd Nyiragongo, llosgfynydd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, ffrwydro. Gwnaeth llif y lafa ddinistrio tai, ysgolion, a chronfa ddŵr. Ond roedd ’na beryglon eraill heblaw am y lafa. Am ddyddiau ar ôl y ffrwydrad, disgynnodd llwch folcanig tocsig ar ben ddinas Goma a chofnodwyd dwsinau o dirgryniadau. Cafodd trigolion hanner y ddinas orchymyn i adael eu cartrefi. Gwnaeth cannoedd o filoedd ffoi, aeth rhai ohonyn nhw dros y ffin i Rwanda.

Ar eiddo Neuadd y Deyrnas, mae pwyllgor cymorth lleol yn darparu uwd

 Ymhlith y rhai oedd yn gorfod ffoi oedd 5,000 o Dystion Jehofa. Collodd rhai eu cartrefi yn y ffrwydrad; a chafodd cartrefi eraill eu hysbeilio gan ladron ar ôl iddyn nhw ffoi. Gwnaeth y pwyllgorau cymorth yn Rwanda a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo gydlynu’r ymdrechion i helpu. Dywedodd cangen Congo (Kinshasa) ynglŷn ag un pwyllgor cymorth: “Er gwaethaf yr anhrefn yn y ddinas a hyd yn oed cyn i’r gorchymyn gael ei roi i adael eu cartrefi, dechreuodd y pwyllgor ddosbarthu dŵr, bwyd, blancedi, a dillad.” Mewn un dref lle roedd dros 2,000 o’n brodyr wedi ymgynnull, gwnaeth y pwyllgor cymorth godi pebyll, dosbarthu mygydau, ac esbonio sut i leihau’r risg o ddal COVID-19 a cholera.

Pwyso Bagiau o fwyd cyn eu dosbarthu i gyd-Dystion sydd wedi cael eu digartrefu

 O fewn tri mis i’r trychineb, roedd ein brodyr wedi dosbarthu mwy na chwe thunnell o reis, chwe thunnell o flawd India corn, dros 8,000 litr o olew coginio, a dros 8,000 litr o ddŵr. I arbed arian, trefnodd y gangen i brynu bwyd yn lleol yn hytrach nag archebu bwyd drutach o dramor.

 “Oedden ni’n hynod o ddigalon ac yn drist,” meddai un chwaer a oedd wedi colli ei chartref newydd yn y ffrwydrad. Ond wedyn cafodd ei theulu cymorth materol ac ysbrydol. Aeth hi ymlaen i ddweud: “Gyda help Jehofa, mae gyda ni popeth sydd ei angen arnon ni. ’Dyn ni wedi gweld bod Jehofa yn ysgwyddo’r pwysau ac yn ei gwneud hi’n haws inni ymdopi.”

Cwymp Economaidd Feneswela

 Mae Feneswela wedi dioddef creisis economaidd mawr ers blynyddoedd. Mae ein brodyr yno yn dioddef amodau byw anodd, prinder bwyd, a chynnydd mewn troseddu. Eto dydy cyfundrefn Jehofa ddim wedi cefnu arnyn nhw.

Llwytho sachau o reis ar gyfer eu dosbarthu i wahanol rannau o Feneswela

 Yn ystod y flwyddyn wasanaeth ddiwethaf mae dros filiwn o bunnoedd wedi cael eu gwario ar brynu a chludo bwyd a sebon i deuluoedd anghenus. Dywedodd cangen Feneswela: “Dydy hi ddim yn hawdd o gwbl i gludo 130 tunnell o fwyd i bob cwr o’r wlad bob mis a’i gael yn nwylo’r brodyr anghenus.” Er mwyn gwneud yn siŵr fydd y bwyd ddim yn mynd yn ddrwg, mae’r brodyr yn anfon eitemau sydd yn cadw’n ffres yn hirach. Dywedon nhw hefyd: “’Dyn ni’n prynu’r rhan fwyaf o’r bwyd mewn swmp mawr, pan fydd e mewn tymor, a’r prisiau yn is. Yna byddwn ni’n ei gludo yn y ffordd fwyaf cost effeithiol.”

Oherwydd prinder difrifol o danwydd a cherbydau, mae’r brodyr ifanc yn teithio yn ôl ac ymlaen 18 cilomedr (11 milltir) ar gefn beiciau i ddosbarthu bwyd i’w cynulleidfaoedd

 Mae Leonel, aelod o Bwyllgor Cymorth ar ôl Trychineb yn Feneswela, wrth ei fodd gyda’i aseiniad. “Mae helpu pobl ar ôl trychineb yn waith arbennig,” meddai. “Mae’r fraint hon wedi fy nghalonogi ers marwolaeth fy annwyl wraig o COVID-19. Dw i’n cadw’n brysur a dw i’n teimlo mod i o gymorth i frodyr mewn angen. Dw i wedi profi sut mae Jehofa yn cadw ei addewid i beidio byth â chefnu ar ei bobl.”

 Roedd un brawd a gafodd cymorth wedi gwasanaethu ar bwyllgor cymorth ei hun yn y gorffennol. “A nawr fy nhro i oedd hi i gael help. Cawson i fwy na chymorth materol yn unig. Helpodd y brodyr i fi a fy ngwraig dawelu ein meddyliau. Gwnaethon nhw ofalu amdanon ni, ein cysuro ni, a’n hannog ni.”

 Mae rhai trychinebau yn digwydd heb lawer o rybudd o gwbl. Eto, mae cyfundrefn Jehofa yn aml yn gallu cael hyd i nwyddau cymorth a’u hanfon yn gyflym, diolch am eich cyfraniadau at y gwaith byd-eang. Cewch weld y gwahanol ffyrdd o gyfrannu ar donate.mt711.com. Gwerthfawrogwn eich haelioni.

a Dechreuodd blwyddyn wasanaeth 2021 ar Fedi 1, 2020, a diweddu ar Awst 31, 2021.