Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Cynhadledd Dros y Radio a’r Teledu

Cynhadledd Dros y Radio a’r Teledu

AWST 1, 2021

 Roedd cynhadledd ranbarthol 2020 yn hanesyddol—ein cynhadledd fyd-eang gyntaf i gael ei recordio a’i drosglwyddo dros y rhyngrwyd! Ond ym Malawi a Mosambîc, gwnaeth y rhan fwyaf o’n brodyr a’n chwiorydd wrando ar y gynhadledd heb ddefnyddio’r Rhyngrwyd. Sut roedd hyn yn bosib?

 Fel eithriad, cafwyd caniatâd gan Bwyllgor y Cydlynwyr a Phwyllgor Addysgu’r Corff Llywodraethol i ddarlledu’r gynhadledd dros deledu a radio ym Malawi a Mosambîc. Pam roedd angen y fath eithriad? Mae costau data Rhyngrwyd ym Malawi ymhlith y rhai drutaf yn y byd, ac felly ychydig iawn o Dystion sydd yn gallu cael mynediad i’r Rhyngrwyd. Esboniodd William Chumbi aelod o Bwyllgor Cangen Malawi: “Radio a theledu oedd yr unig ffyrdd i’n brodyr a’n chwiorydd allu wrando ar y gynhadledd.” Mae Luka Sibeko, sydd hefyd yn gwasanaethu ar Bwyllgor Cangen Malawi yn ychwanegu: “Petasai hi ddim wedi bod yn bosib i’w chael dros y teledu a’r radio, dim ond ychydig o’r brodyr yn nhiriogaeth y gangen fyddai wedi elwa o’r gynhadledd.” Yr un oedd yr hanes ym Mosambîc; ychydig iawn o frodyr fyddai wedi gallu fforddio dyfais electronig, heb sôn am y Rhyngrwyd.

Gwneud y Trefniadau

 Oherwydd y pandemig COVID-19, roedd rhai o’r gorsafoedd teledu a radio eisoes yn darlledu cyfarfodydd cynulleidfaol. a Cysylltodd ein brodyr â’r gorsafoedd hyn a gofynnon nhw am amser ychwanegol i ddarlledu’r gynhadledd.

 Ym Malawi, roedd ein brodyr mewn sefyllfa anodd. Fel arfer mae gorsafoedd darlledu yn cyfyngu cwsmeriaid i un awr o ddarlledu yn unig. Mae gorsafoedd yn poeni na fydd rhaglenni hirach yn cadw sylw’r gynulleidfa. Ond esboniodd ein brodyr fod y gwaith yn wasanaeth cyhoeddus. Hyd yn oed o dan y cyfnod clo, rydyn ni’n rhoi i bobl newyddion da o’r Beibl i’w cysuro, sy’n helpu pobl i fod yn ddinasyddion da a chael bywyd teuluol hapus. O glywed hyn derbyniodd y gorsafoedd gais y brodyr am amser darlledu ychwanegol.

 Ym Malawi, cafodd y gynhadledd ei darlledu gan un orsaf deledu ac un orsaf radio, ill dau yn darlledu yn genedlaethol gyda’r potensial o gyrraedd miliynau o bobl. Ym Mosambîc, cafodd y gynhadledd ei darlledu gan un orsaf deledu ac 85 o orsafoedd radio.

 Yn y ddwy wlad, cafodd cyfanswm o £20,630 ei wario ar ddarlledu’r gynhadledd dros y teledu a bron i £15,000 i ddarlledu dros y radio. Gwnaeth y costau amrywio o £11 am orsaf fach i £2,030 am orsaf genedlaethol.

 Gweithiodd y brodyr yn galed i wneud y defnydd gorau o’r cyfraniadau. Ym Malawi, er enghraifft, roedden nhw’n gallu bargeinio am brisiau is gan gynnwys un gostyngiad o 30 y cant. Gwnaeth y gostyngiadau hyn arbed cyfanswm o £1,251. Ym Mosambîc, roedd rhai gorsafoedd yn fodlon gostwng eu prisiau oherwydd ein henw da am fod yn onest a thalu’n biliau’n brydlon.

Negeseuon o Ddiolch

 Roedd ein brodyr yn ddiolchgar iawn i allu gwylio neu wrando ar y gynhadledd ar orsafoedd lleol. Dywedodd Patrick, henuriad o Malawi: “’Dyn ni’n diolch i frodyr y Corff Llywodraethol am bopeth maen nhw wedi ei wneud droston ni yn ystod y pandemig.” Dywedodd Isaac, sydd hefyd ym Malawi: “Does gynnon ni ddim dyfeisiau eraill, felly roedden ni’n ddiolchgar iawn am ddarpariaeth arbennig cyfundrefn Jehofa o allu gwrando ar y gynhadledd dros y radio. O ganlyniad i hyn mae fy holl deulu wedi elwa o’r gynhadledd. I ni, roedd hyn yn brawf amlwg o gariad Jehofa tuag at ei bobl.”

 I un cyhoeddwr ym Mosambîc roedd cynhadledd 2020 yn gynhadledd gyntaf iddo. Dywedodd: “Roedd y trefniant i wylio’r gynhadledd ar y teledu yn fy atgoffa mai Jehofa yw’r hollalluog Dduw. Wnaeth y pandemig ddim ei rwystro Ef rhag rhoi bwyd ysbrydol inni a’i weini yn syth i fy ystafell fyw. Gwelais dystiolaeth o’r cariad sydd ymhlith pobl Jehofa. Dw i’n gwbl sicr mai hwn yw’r gwir grefydd.”

 Dywedodd henuriad o’r enw Wyson: “Hoffwn i ddiolch am y ffordd mae’r gwas ffyddlon a chall wedi gofalu amdanon ni yn ystod y pandemig. Mae’r ddarpariaeth o gael y gynhadledd dros radio a theledu wedi helpu llawer ohonon ni yn y rhan dlawd hon o’r byd i gael y rhaglen, ac i elwa ohoni.”

 Ar gyfer cynhadledd ranbarthol 2021, mae’r pwyllgorau Cydlynwyr ac Addysgu unwaith eto wedi gwneud eithriad er mwyn i’r gynhadledd gael ei darlledu dros deledu a radio mewn cymunedau penodol. Sut rydyn ni’n gallu talu’r costau o redeg y gynhadledd fel hyn? Drwy gyfraniadau tuag at y gwaith byd-eang, llawer ohonyn nhw sydd wedi cael eu gwneud drwy’r dulliau gwahanol sydd i’w cael ar donate.mt711.com. Diolch am eich cyfraniadau hael.

a Yn gynt yn 2020, gwnaeth Pwyllgor y Cydlynwyr roi caniatâd i gyfarfodydd cynulleidfaol gael eu darlledu dros deledu a radio mewn lleoliadau penodol yn ystod y pandemig COVID-19. Mae’r ddarpariaeth hon wedi helpu’r rhai sy’n methu cael eu cyfarfodydd cynulleidfaol lleol na JW Stream am eu bod nhw’n byw mewn cymunedau lle nad yw’r Rhyngrwyd, na gwasanaeth ffôn symudol, ar gael neu’n fforddiadwy. Ond, dyw’r trefniant yma ddim wedi ei fwriadu ar gyfer cymunedau sy’n gallu cysylltu â’r cyfarfodydd gyda chynulleidfa leol.