Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GALLWCH LEDDFU STRAEN

Sut i Ddelio â Straen

Sut i Ddelio â Straen

Er mwyn delio â straen yn effeithiol, mae’n rhaid ichi ystyried eich iechyd corfforol, sut rydych yn ymwneud ag eraill, a’ch nodau a blaenoriaethau—hynny yw, y pethau sy’n bwysig i chi. Bydd yr erthygl hon yn adolygu egwyddorion ymarferol a all eich helpu chi i ddelio â straen ac efallai ei leihau.

Cymryd Un Dydd ar y Tro

“Peidiwch byth â bod yn bryderus am yfory, oherwydd y bydd gan yfory ei bryderon ei hun.”—MATHEW 6:34.

Ystyr: Mae pryderon yn rhan o’n bywyd bob dydd, ond peidiwch ag ychwanegu at eich pryder drwy boeni am yfory. Ceisiwch fyw un dydd ar y tro.

  • Gall straen achosi pryder. Dyma ddau beth a all helpu: Yn gyntaf, er ichi ddisgwyl profi rhywfaint o bryder, bydd poeni am bethau sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth yn ychwanegu at stres. Yn ail, mae’n rhaid cyfaddef fod y pethau rydyn ni’n poeni amdanyn nhw ddim yn digwydd yn aml.

Gosod Safonau Rhesymol

“Mae’r doethineb sy’n dod oddi uchod yn . . . rhesymol.”—IAGO 3:17.

Ystyr: Peidiwch â disgwyl i bopeth fod yn berffaith na disgwyl gormod gennych chi’ch hun nac eraill.

  • Byddwch yn wylaidd, gosodwch safonau rhesymol, a cheisiwch ddeall eich cyfyngiadau chi’ch hun a rhai pobl eraill. Bydd gwneud hyn yn lleddfu straen a hybu canlyniadau da. Hefyd, os ydych yn barod i chwerthin hyd yn oed pan fydd pethau’n mynd o’i le, byddwch yn lleihau’r tensiwn ac yn codi’ch hwyliau.

Deall Beth Sy’n Achosi Straen

‘Mae person pwyllog yn dangos ei fod yn gall.’—DIARHEBION 17:27.

Ystyr: Gall emosiynau negyddol eich rhwystro rhag meddwl yn glir, felly ceisiwch gadw eich heddwch meddwl.

  • Ceisiwch ddeall beth sy’n achosi eich straen a’ch ymateb iddo. Er enghraifft, pan fyddwch o dan straen, sylwch ar eich meddyliau, eich teimladau, a’ch ymddygiad ac efallai gadw cofnod ohonyn nhw. Drwy fod yn ymwybodol o’ch ymateb i straen, byddwch yn fwy parod i ddelio ag ef yn effeithiol. Hefyd, ystyriwch sut i gael gwared ar bethau yn eich bywyd sy’n achosi straen. Os nad ydy hynny’n bosib, edrychwch am ffyrdd i leihau eu heffaith, efallai drwy drefnu eich gwaith neu’ch amser yn well.

  • Ceisiwch weld pethau o safbwynt gwahanol. Efallai mai eich agwedd sy’n rheoli pam rydych chi’n teimlo o dan straen ond dydy eraill ddim. Ystyriwch yr awgrymiadau canlynol:

    1. Peidiwch â bod yn rhy gyflym i ddrwgdybio. Dychmygwch rywun yn gwthio o’ch blaen mewn llinell, petasech chi’n meddwl ei fod wedi bod yn anghwrtais, mae’n debyg y byddech chi’n cynhyrfu. Yn lle hynny, beth am feddwl y gorau amdano? Efallai roedd ei gymhelliad yn dda!

    2. Edrychwch ar yr ochr olau i bethau. Byddai arhosiad hir i weld y doctor neu i ddal awyren yn haws os ydych chi’n defnyddio eich amser i ddarllen neu ddal i fyny â’ch gwaith neu e-byst.

    3. Cofiwch y darlun mawr. Gofynnwch i chi’ch hun, ‘A fydda’ i’n poeni’n arw am y broblem hon yfory neu wythnos nesaf?’ Gwahaniaethwch rhwng materion pwysig a rhai llai pwysig.

Ceisio Bod yn Drefnus

“Gadewch i bob peth gael ei wneud yn weddus ac yn drefnus.”—1 CORINTHIAID 14:40.

Ystyr: Ceisiwch gadw eich bywyd yn drefnus.

  • Mae’n ddymunol i gael rhywfaint o drefn ar ein bywydau. Un peth a all arwain at anhrefn a straen yw llusgo’n traed cyn gwneud pethau, a gall hyn arwain at restr hirach o bethau sydd angen eu gwneud. Beth am roi ar waith y ddau awgrym canlynol?

    1. Gwnewch raglen ymarferol, a glynwch wrthi.

    2. Ceisiwch ddeall a chywirwch unrhyw agweddau sy’n gwneud ichi oedi cyn gwneud pethau.

Byw Bywyd Cytbwys

“‘Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.’ Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt!”—PREGETHWR 4:6.

Ystyr: Gall pobl sy’n gaeth i’w gwaith golli allan ar fanteision eu “dau lond llaw” o waith caled. Mae’n debyg na fydd ganddyn nhw’r amser na’r egni i fwynhau canlyniadau eu gwaith.

  • Cadwch waith ac arian yn eu lle. Dydy mwy o arian ddim yn golygu mwy o hapusrwydd na llai o straen. Gall y gwrthwyneb fod yn wir hyd yn oed. “Mae’r ffaith fod gan y cyfoethog fwy na digon yn ei rwystro rhag cysgu’n dawel,” meddai Pregethwr 5:12. Felly, peidiwch â gwario mwy na fedrwch chi ei fforddio.

  • Neilltuwch amser i ymlacio. Mae gwneud pethau rydych yn mwynhau yn lleddfu straen. Ond, mae’n debyg na fydd adloniant goddefol, fel gwylio teledu, yn eich helpu.

  • Cadwch dechnoleg yn ei le. Osgowch y tueddiad i edrych ar e-byst, negeseuon, a chyfryngau cymdeithasol bob dau funud. Oni bai bod rhaid ichi, peidiwch ag edrych ar e-byst gwaith tu allan i oriau gwaith.

Gofalu am Eich Iechyd

“Mae ymarfer corff yn fuddiol.”—1 TIMOTHEUS 4:8.

Ystyr: Mae ymarfer corff rheolaidd yn hybu iechyd gwell.

  • Meithrinwch arferion iach. Gall gweithgareddau corfforol wella eich tymer a gwella ymateb eich corff i straen. Ceisiwch fwyta’n iach, a hynny heb fethu prydau o fwyd. Sicrhewch eich bod chi’n cael digon o gwsg.

  • Osgowch geisio leddfu straen drwy wneud pethau niweidiol fel ysmygu neu gamddefnyddio alcohol a chyffuriau. Yn y tymor hir, mae’r rhain yn ychwanegu at stres efallai drwy ddwyn eich arian a difetha eich iechyd.

  • Ewch at eich doctor os ydy’r straen yn ormodol ichi. Nid yw derbyn help proffesiynol yn arwydd o fethiant.

Blaenoriaethu

“Gwneud yn siŵr o beth yw’r pethau mwyaf pwysig.”—PHILIPIAID 1:10.

Ystyr: Ystyriwch eich blaenoriaethau yn ofalus.

  • Rhestrwch eich tasgau yn ôl eu pwysigrwydd. Bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio ar y jobsys mawr. Bydd hi’n amlwg wedyn pa dasgau y gallwch eu gohirio, eu trosglwyddo i rywun arall, neu eu dileu.

  • Cofnodwch eich defnydd o amser dros gyfnod o wythnos. Yna, edrychwch am ffyrdd o’i wella. Mwya’n y byd gallwch reoli eich amser, mwya’n y byd byddwch yn teimlo o dan lai o bwysau.

  • Neilltuwch amser i ymlacio. Gall hyd yn oed gorffwys bach eich adfywio a lleddfu eich straen.

Ceisio Cymorth

“Mae pryder yn gallu llethu rhywun, ond mae gair caredig yn codi calon.”—DIARHEBION 12:25.

Ystyr: Gall clywed geiriau caredig a thosturiol godi eich calon.

  • Siaradwch am eich problemau â rhywun rydych chi’n ei drystio ac sy’n wrandawr da. Gall gwneud hyn eich helpu chi i weld pethau o safbwynt gwahanol neu weld ffordd newydd o ddatrys y broblem. Gall bwrw eich bol wneud ichi deimlo’n well.

  • Gofynnwch am gymorth. A fedrwch chi drosglwyddo tasg i rywun arall neu ei rhannu â nhw?

  • Os ydy rhywun yn eich gweithle yn achosi straen, edrychwch am ffyrdd i wella’r sefyllfa. Er enghraifft, a fedrwch chi ddweud wrthyn nhw mewn ffordd garedig a llawn tact sut maen nhw’n gwneud ichi deimlo? (Diarhebion 17:27) Os nad ydy hynny’n gweithio, a fyddai’n bosib ichi dreulio llai o amser gyda nhw?

Gofalu am Eich Angen Ysbrydol

“Hapus ydy’r rhai sy’n ymwybodol fod ganddyn nhw angen ysbrydol.”—MATHEW 5:3.

Ystyr: Rydyn ni angen mwy na bwyd, dillad, a lloches. Mae gennyn ni angen ysbrydol hefyd. Er mwyn bod yn hapus mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol o’r angen hwnnw a’i lenwi.

  • Gall gweddïo fod yn help mawr. Mae Duw yn eich gwahodd i “fwrw eich holl bryder arno ef, oherwydd ei fod yn gofalu amdanoch chi.” (1 Pedr 5:7) Gall gweddïo a meddwl am bethau adeiladol arwain at heddwch mewnol.—Philipiaid 4:6, 7.

  • Darllenwch bethau a fydd yn eich helpu i nesáu at Dduw. Mae’r egwyddorion a drafodwyd yn yr erthygl hon yn dod o’r Beibl, a gafodd ei ysgrifennu er mwyn bodloni ein hangen ysbrydol. Mae’r rhain yn meithrin ‘doethineb a phwyll.’ (Diarhebion 3:21, Beibl Cysegr-lân) Beth am osod y nod o ddarllen y Beibl? Byddai llyfr Diarhebion yn lle da i gychwyn.