Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y RHAI SY’N GALARU

Yr Help Gorau ar Gyfer y Rhai Sy’n Galaru

Yr Help Gorau ar Gyfer y Rhai Sy’n Galaru

MAE POEN GALAR WEDI BOD YN DESTUN LLAWER O YMCHWIL YN DDIWEDDAR. Ond, fel y sonnir amdano’n barod, mae’r cyngor gorau yn aml yn cyd-fynd â’r cyngor hynafol a geir yn y Beibl. Mae hyn yn glod i gyngor digyfnewid y Beibl. Fodd bynnag, mae’r Beibl yn cynnwys mwy na chyngor dibynadwy. Mae’n rhoi gwybodaeth na ellir mo’i chael mewn unrhyw le arall, gwybodaeth sy’n gallu dod â chysur mawr i’r rhai sy’n galaru.

  • Sicrwydd nad yw ein hanwyliaid sydd wedi marw yn dioddef

    “Dydy’r meirw’n gwybod dim byd,” meddai’r Beibl yn Pregethwr 9:5. Hefyd: “Derfydd am ei gynlluniau,” sef y sawl sydd wedi marw. (Salm 146:4, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Yn gyson â hyn, mae’r Beibl yn disgrifio marwolaeth fel cwsg tawel.—Ioan 11:11.

  • Cred gref fod Duw cariadus yn dod â chysur

    Yn Salm 34:15, dywed y Beibl: “Mae’r ARGLWYDD * yn gofalu am y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn, ac yn gwrando’n astud pan maen nhw’n galw arno.” Mae mynegi ein teimladau drwy weddïo ar Dduw yn fwy na therapi da neu ffordd o drefnu ein meddyliau. Yn wir, mae’n ein helpu i feithrin perthynas bersonol â’r Creawdwr, sy’n gallu defnyddio ei nerth i’n cysuro ni.

  • Dyfodol gwell i edrych ymlaen tuag ato

    Dychmygwch amser yn y dyfodol pan fydd pawb yn y bedd yn dod yn ôl yn fyw yma ar y ddaear! Dro ar ôl tro mae’r Beibl yn siarad am hyn. Gan ddisgrifio cyflwr y ddaear bryd hynny, mae’r Beibl yn dweud y bydd Duw yn “sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.”—Datguddiad 21:3, 4.

Mae llawer sy’n credu yn Jehofa, Duw’r Beibl, yn cael eu hatgyfnerthu i ymdopi â galar drwy roi eu ffydd yn y gobaith o weld eu hanwyliaid marw unwaith eto. Er enghraifft, mae Ann, a gollodd ei gŵr ar ôl 65 mlynedd o briodas, yn dweud: “Mae’r Beibl yn fy sicrhau nad ydy ein hanwyliaid sydd wedi marw yn dioddef ac y bydd Duw yn atgyfodi pawb sydd yn ei gof. Mae’r meddyliau hyn yn dod i’r wyneb pan fydda’ i’n meddwl am fy ngholled ac, o ganlyniad, rwy’n wir yn gallu ymdopi â’r peth gwaethaf sydd erioed wedi digwydd i mi!”

Mae Tiina, y soniwyd amdani’n gynharach yn y gyfres hon o erthyglau, yn dweud: “Ers y diwrnod y bu farw Timo, dw i wedi teimlo cefnogaeth Duw. Dw i wedi teimlo llaw Jehofa yn fy helpu yn ystod fy adegau anodd. Ac mae’r addewid sydd yn y Beibl am yr atgyfodiad yn real iawn imi. Mae’n fy nghryfhau i ddal ati nes i’r diwrnod ddod pan fydda’ i’n gallu gweld Timo unwaith eto.”

Mae’r geiriau hyn yn adleisio sylwadau miliynau o bobl sydd wedi eu hargyhoeddi bod y Beibl yn ddibynadwy. Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo bod addewidion y Beibl yn swnio’n afreal neu’n freuddwyd yn unig, ewch amdani er eich mwyn eich hun i archwilio’r dystiolaeth fod ei gyngor a’i addewidion yn ddibynadwy. Efallai y byddwch yn darganfod mai’r Beibl ydy’r help gorau ar gyfer y rhai sy’n galaru.

DYSGWCH FWY AM Y GOBAITH AR GYFER Y MEIRW

Gwyliwch fideos ar y pwnc hwn ar ein gwefan, jw.org/cy

Mae’r Beibl yn addo y daw amser pan fyddwn ni’n croesawu’n ôl ein hanwyliaid sydd wedi marw

BETH YW CYFLWR Y MEIRW?

Beth sy’n digwydd inni pan fyddwn ni’n marw? Mae ateb eglur y Beibl yn ein cysuro a’n calonogi

Edrychwch o dan LLYFRGELL > FIDEOS (O dan fideos: Y BEIBL)

HOFFECH CHI GLYWED NEWYDDION DA?

Gyda chymaint o newyddion drwg yn bodoli, lle gallwch chi ddod o hyd i newyddion da?

Edrychwch o dan DYSGEIDIAETHAU’R BEIBL > HEDDWCH A HAPUSRWYDD

^ Par. 7 Jehofa ydy enw personol Duw’r Beibl.