Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Parch ac Urddas o Dan Ofal Duw

Parch ac Urddas o Dan Ofal Duw

PAN oedd Iesu ar y ddaear, roedd yn adlewyrchu personoliaeth a ffyrdd ei Dad yn berffaith. Dywedodd: “[Nid] ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth mae’r Tad wedi’i ddysgu i mi . . . dw i bob amser yn gwneud beth sy’n ei blesio.” (Ioan 8:28, 29; Colosiaid 1:15) Felly, drwy ystyried y ffordd roedd Iesu yn trin menywod, gwelwn sut mae Duw yn teimlo am fenywod a sut mae’n disgwyl i eraill eu trin.

Ar sail yr Efengylau, mae nifer o ysgolheigion yn cydnabod bod agwedd Iesu tuag at fenywod yn wirioneddol chwyldroadol. Ym mha ffordd? Ac yn bwysicach fyth, a yw ei ddysgeidiaeth yn rhoi rhyddid i fenywod heddiw?

Sut Roedd Iesu yn Trin Menywod?

Nid oedd Iesu yn gweld menywod dim ond yn nhermau eu rhywioldeb. Ym marn rhai arweinwyr crefyddol Iddewig, byddai unrhyw gyswllt â menywod yn sicr o arwain at chwantau rhywiol anfoesol. Felly, nid oedd menywod yn cael siarad â dynion yn gyhoeddus nac yn cael mynd allan heb orchuddio eu pennau. Ond dywedodd Iesu dylai dynion reoli eu chwantau a thrin menywod ag urddas yn lle gwrthod cymdeithasu â nhw.—Mathew 5:28.

Dywedodd Iesu hefyd: “Pwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall, y mae’n godinebu yn ei herbyn hi.” (Marc 10:11, 12, BCND) Roedd yr arweinwyr crefyddol yn dweud ei bod hi’n iawn i ddynion ysgaru eu gwragedd “am unrhyw reswm,” ond roedd Iesu yn anghytuno. (Mathew 19:3, 9) Syniad dieithr i’r rhan fwyaf o’r Iddewon oedd y gred bod dyn yn gallu godinebu yn erbyn ei wraig. Roedd yr athrawon crefyddol yn dysgu nad oedd modd i ŵr odinebu yn erbyn ei wraig—dim ond gwragedd oedd yn gallu bod yn anffyddlon. Dywed un esboniad am y Beibl: “Drwy rwymo’r gŵr i’r un safon foesol â’r wraig, cododd Iesu statws ac urddas menywod.”

Effaith ei ddysgeidiaeth heddiw: Mewn cyfarfodydd Tystion Jehofa, mae dynion a menywod yn cymdeithasu ac yn addoli ar y cyd. Sut bynnag, nid oes rhaid i fenywod boeni am ymddygiad amhriodol oherwydd mae dynion Cristnogol yn trin “y gwragedd hyn fel mamau, a’r merched ifainc â phurdeb llwyr fel chwiorydd.”—1 Timotheus 5:2, BCND.

Roedd Iesu yn cymryd amser i ddysgu menywod. Roedd yr athrawon crefyddol yn credu nad oedd angen dysgu menywod. Ond roedd Iesu yn hapus i ddysgu menywod a’u hannog i fynegi eu teimladau. Drwy adael i Mair aros a gwrando arno’n dysgu, dangosodd Iesu ei bod hi’n iawn i fenywod wneud pethau eraill heblaw am waith tŷ. (Luc 10:38-42) Ar ôl i Lasarus farw, mae’r atebion deallus a roddodd Martha, chwaer Mair, yn dangos ei bod hi hefyd wedi elwa ar ddysgeidiaeth Iesu.—Ioan 11:21-27.

Roedd barn menywod yn bwysig i Iesu. Bryd hynny, roedd y rhan fwyaf o wragedd Iddewig yn credu mai’r fendith fwyaf oedd cael mab ac, yn ddelfrydol, un a fyddai’n tyfu i fod yn broffwyd. Pan waeddodd un wraig: “Mae dy fam, wnaeth dy gario di . . . wedi ei bendithio’n fawr,” dywedodd Iesu nad dyna oedd y fendith fwyaf. (Luc 11:27, 28) Drwy ddangos bod perthynas â Duw yn fwy pwysig, roedd Iesu yn ei hannog hi i edrych y tu hwnt i rôl draddodiadol menywod.—Ioan 8:32.

Effaith ei ddysgeidiaeth heddiw: Mae’r rhai sy’n dysgu yn y gynulleidfa Gristnogol yn croesawu sylwadau menywod yn y cyfarfodydd. Maen nhw’n parchu menywod aeddfed sy’n ‘dysgu eraill beth sy’n dda’ yn breifat a thrwy esiampl. (Titus 2:3) Maen nhw hefyd yn gwybod bod y rhan fwyaf o’r gwaith i bregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw yn cael ei gwneud gan fenywod.—Salm 68:11; gweler y blwch “ A Oedd yr Apostol Paul yn Gwahardd Menywod Rhag Siarad?

Roedd Iesu yn gofalu am fenywod. Yn amser y Beibl, roedd pobl yn credu bod meibion yn bwysicach na merched. Gwelir hyn yn y Talmwd, sy’n dweud: “Gwyn ei fyd y gŵr sy’n dad i feibion, a gwae’r un y mae ei blant yn fenywod.” Roedd rhai yn teimlo bod merch yn fwy o faich—byddai’n rhaid cael gŵr iddi, a rhoi rhodd ariannol iddo, ac ni fydden nhw’n gallu dibynnu arni hi i ofalu amdanyn nhw yn eu henaint.

Dangosodd Iesu fod bywyd merch yr un mor bwysig â bywyd bachgen drwy atgyfodi merch fach Jairus yn ogystal â mab gweddw Nain. (Marc 5:35, 41, 42; Luc 7:11-15) Ar ôl iddo iacháu menyw oedd wedi bod yn anabl ers 18 mlynedd, galwodd Iesu hi yn “un o ferched Abraham.” (Luc 13:10-16, BCND) Mae’r ymadrodd hwn yn anghyffredin iawn mewn ysgrifau Iddewig, ond drwy ei ddefnyddio, roedd Iesu yn cydnabod ffydd y ddynes ac yn dangos bod menywod yr un mor bwysig â phawb arall.—Luc 19:9; Galatiaid 3:7.

Effaith ei ddysgeidiaeth heddiw: Mae ymadrodd yn Asia yn dweud: “Mae magu merch yn debyg i roi dŵr i blanhigion cymydog.” Yn hytrach na gadael i’r agwedd honno ddylanwadu arnyn nhw, mae tadau Cristnogol cariadus yn gofalu am bob un o’u plant, yn fechgyn neu’n ferched. Mae rhieni Cristnogol yn sicrhau bod pob un o’u plant yn cael addysg a gofal iechyd.

Fe wnaeth Iesu anrhydeddu Mair Magdalen drwy ofyn iddi ddweud wrth ei apostolion am ai atgyfodiad

Roedd Iesu yn ymddiried mewn menywod Mewn llys barn Iddewig roedd tystiolaeth menyw yn cael ei hystyried yr un fath â thystiolaeth caethwas. Awgrymodd Josephus, hanesydd yn y ganrif gyntaf: “Ni ddylid derbyn tystiolaeth merched gan eu bod wrth natur yn anghyfrifol, ac yn fyrbwyll.”

Mewn cyferbyniad llwyr, dewisodd Iesu fenywod i fod yn dystion i’w atgyfodiad. (Mathew 28:1, 8-10) Roedd y menywod ffyddlon hyn wedi gweld Iesu yn cael ei ladd a’i gladdu, ond eto nid oedd yr apostolion yn eu credu. (Mathew 27:55, 56, 61; Luc 24:10, 11) Sut bynnag, drwy ymddangos i fenywod yn gyntaf, dangosodd Crist ei fod yn eu gweld nhw’r un mor ddibynadwy â’i ddisgyblion eraill.—Actau 1:8, 14.

Effaith ei ddysgeidiaeth heddiw: Mewn cynulleidfaoedd Tystion Jehofa, mae’r henuriaid yn dangos eu bod nhw’n parchu menywod drwy gymryd eu sylwadau o ddifri. Yn y teulu, bydd gŵr Cristnogol yn parchu ei wraig drwy wrando yn astud arni.—1 Pedr 3:7; Genesis 21:12.

Mae Egwyddorion y Beibl yn Helpu Menywod i Fod yn Hapus

Mae’r rhai sy’n dilyn egwyddorion y Beibl yn parchu menywod ac yn eu trin ag urddas

Pan fydd dynion yn efelychu Crist, mae menywod yn cael y parch a’r rhyddid yr oedd Duw yn ei fwriadu. (Genesis 1:27, 28) Nid yw gwŷr Cristnogol yn credu bod menywod yn is na nhw. Maen nhw’n dilyn egwyddorion y Beibl ac mae hyn yn gwneud eu gwragedd yn hapus.—Effesiaid 5:28, 29.

Pan ddechreuodd Yelena astudio’r Beibl, roedd ei gŵr yn ei thrin hi’n ddrwg iawn. Roedd ef wedi ei fagu mewn cymdeithas lle roedd trais a herwgipio merched i’w priodi yn bethau cyffredin. “Roedd yr hyn a ddysgais o’r Beibl yn rhoi nerth i mi,” meddai Yelena. “Sylweddolais fod Jehofa yn fy ngharu ac yn gofalu amdana i. Gwelais hefyd y byddai fy ngŵr yn gallu newid ei agwedd tuag ata i petai’n astudio’r Beibl.” Cafodd ddymuniad ei chalon pan gytunodd ei gŵr i astudio’r Beibl a chafodd ei fedyddio yn un o Dystion Jehofa. “Heddiw, mae’n esiampl wych o hunanreolaeth,” meddai Yelena. “Rydyn ni wedi dysgu i faddau i’n gilydd.” Heddiw, mae hi’n dweud: “Diolch i egwyddorion y Beibl, dw i’n teimlo’n werthfawr ac yn ddiogel yn fy mhriodas.”—Colosiaid 3:13, 18, 19.

Nid yw profiad Yelena yn unigryw. Mae miliynau o wragedd Cristnogol yn hapus oherwydd maen nhw a’u gwŷr yn ceisio rhoi egwyddorion y Beibl ar waith yn eu priodas. Yng nghwmni Cristnogion eraill, maen nhw’n cael parch, cysur a rhyddid.—Ioan 13:34, 35.

Mae dynion a menywod Cristnogol yn gwybod eu bod nhw’n amherffaith ac felly yn rhan o greadigaeth Duw sydd wedi “cael ei chondemnio i wagedd.” Ond, drwy agosáu at eu Tad cariadus, Jehofa, y mae gobaith y cân nhw eu “gollwng yn rhydd” a mwynhau’r “rhyddid bendigedig fydd Duw’n ei roi i’w blant.” Dyna ichi obaith hyfryd i ddynion a menywod sydd o dan ofal Duw!—Rhufeiniaid 8:20, 21.