GORFFENNAF 14, 2023
MECSICO
Rhyddhau Pedwar Llyfr Cyntaf o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr Iaith Nahwatl (Huasteca)
Ar Orffennaf 7, 2023, gwnaeth y Brawd Juan Angel Hernandez, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America ryddhau pedwar llyfr cyntaf Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn yr iaith Nahwatl (Huasteca). Cafodd ei ryddhau yn ystod diwrnod cyntaf Cynhadledd Ranbarthol “Byddwch yn Amyneddgar”! yr iaith honno, a gafodd ei chynnal yn Hidalgo, Mecsico. Cafodd y rhyddhad hefyd ei ffrydio i’r cynadleddau yn Nhalaith Mecsico a Nuevo León, Mecsico. Roedd cyfanswm o 2,401 yn bresennol. Roedd fersiynau digidol a sain ar gael yn syth ar ôl yr anerchiad.
Er bod cyfieithiadau eraill o’r Beibl ar gael yn Nahwatl (Huasteca), dydyn nhw ddim yn cynnwys enw Jehofa. Yn ychwanegol i hynny, yn aml mae’r iaith yn anodd ei deall. Dywedodd un cyfieithydd: “Roedd defnyddio cyfieithiadau eraill yn debyg i edrych i mewn i ddrych niwlog. Ond nawr, gyda’r cyfieithiad newydd hwn, mae’r drych hwnnw yn hollol glir. Nawr, yn hytrach na cheisio deall y testun yn unig, gall y darllenwyr canolbwyntio ar fyfyrio ar ystyr Gair Duw. Am rodd werthfawr oddi wrth Jehofa!”
Rydyn ni’n hyderus y bydd y cyfieithiad hwn o’r llyfrau Mathew, Marc, Luc, ac Ioan yn helpu llawer sy’n siarad Nahwatl (Huasteca) i ddod i ‘adnabod Jehofa, yr unig wir Dduw, a’r un mae ef wedi ei anfon, Iesu Grist.’—Ioan 17:3.