Neidio i'r cynnwys

MEDI 15, 2023
MYANMAR

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Tsin (Hacha) a Miso

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Tsin (Hacha) a Miso

Ar ddau benwythnos yn olynol cafodd Y Beibl—Y Newyddion Da yn ôl Mathew ei ryddhau mewn dwy iaith frodorol, gan aelodau o Bwyllgor y Gangen ym Myanmar. Ar 3 Medi, 2023, fe wnaeth y Brawd Sai Hlua ei ryddhau yn Tsin (Hacha). Yna, ar 10 Medi fe wnaeth y Brawd Clifton Ludlow ei ryddhau ym Miso.

Tsin (Hacha)

Cafodd y llyfr ei ryddhau yn ystod rhaglen arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n siarad Tsin (Hacha) ym Myanmar. Recordiwyd y rhaglen ymlaen llaw a’i dosbarthu gan ddefnyddio JW Box. Aeth cyfanswm o 397 o bobl i weld y rhaglen mewn gwahanol Neuaddau’r Deyrnas ym Myanmar. Ar ddiwedd y rhaglen cafodd y rhai a oedd yn bresennol gopïau printiedig o’r llyfr, a oedd hefyd ar gael mewn fformat digidol a fformat sain.

Mae’r rhan fwyaf o siaradwyr Tsin (Hacha) yn byw yng ngogledd-ddwyrain Myanmar, ym Mryniau Tsin. Ledled y byd mae mwy na 200,000 o bobl yn siarad Tsin (Hacha). Ym Myanmar, mae mwy na 220 o gyhoeddwyr mewn pum cynulleidfa ac un grŵp Tsin (Hacha) eu hiaith. Y mae hefyd un gynulleidfa ac un grŵp yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd un brawd: “Dw i’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r cyfieithiad newydd o lyfr Mathew oherwydd mae wedi ei ysgrifennu mewn ffordd sy’n hawdd i bawb sy’n siarad Tsin (Hacha) ei deall.”

Miso

Cafodd y rhaglen i ryddhau’r llyfr newydd ei recordio ymlaen llaw a’i dangos mewn dwy Neuadd y Deyrnas ym Myanmar. Ar ôl yr anerchiad cafodd y 173 a oedd yn bresennol gopïau printiedig o’r llyfr, a oedd hefyd ar gael mewn fformat digidol a fformat sain.

Mae Miso, a oedd yn arfer cael ei alw’n Lushei, yn cael ei siarad yn bennaf yn Bangladesh, Myanmar, a thalaith Mizoram yn India. Ledled y byd mae tua 1.3 miliwn o bobl yn siarad yr iaith. Ar hyn o bryd, mae tua 250 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn pum cynulleidfa Miso eu hiaith ym Myanmar ac India.

Roedd y timau cyfieithu ar gyfer Tsin (Hacha) a Miso yn arfer gweithio mewn swyddfa gyfieithu ar odre Bryniau Tsin. Ym mis Ebrill 2021, roedd yn rhaid i’r timau adael y swyddfa oherwydd rhyfel cartref. Ar hyn o bryd mae’r cyfieithwyr yn gweithio mewn swyddfa gyfieithu newydd yn Yangon, tua 3 milltir (4.5 cilomedr) o’r swyddfa gangen ym Myanmar.

Rydyn ni wrth ein boddau bod ein brodyr a chwiorydd a llawer o bobl eraill sy’n siarad Tsin (Hacha) a Miso bellach yn gallu darllen y “newyddion da gogoneddus am y Crist” yn eu hiaith eu hunain.—2 Corinthiaid 4:4.