Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Credu yn Iesu?

Ydy Tystion Jehofa yn Credu yn Iesu?

 Ydyn. Rydyn ni’n credu yn Iesu ac yn ei eiriau: “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.” (Ioan 14:6) Mae gennyn ni ffydd bod Iesu wedi dod i’r ddaear o’r nefoedd ac wedi rhoi ei fywyd dynol perffaith yn aberth pridwerthol. (Mathew 20:28) Mae ei farwolaeth a’i atgyfodiad yn ei gwneud hi’n bosibl i’r rhai sydd â ffydd ynddo gael bywyd tragwyddol. (Ioan 3:16) Credwn hefyd fod Iesu yn teyrnasu nawr fel Brenin Teyrnas Dduw, ac y bydd yn dod â heddwch i’r holl ddaear yn fuan. (Datguddiad 11:15) Ond, rydyn ni’n credu’r hyn a ddywedodd Iesu amdano’i hun: “Y mae’r Tad yn fwy na mi.” (Ioan 14:28) Felly dydyn ni ddim yn addoli Iesu, gan nad ydyn ni’n credu mai ef yw’r Duw Hollalluog.