Neidio i'r cynnwys

Pam Mae Tystion Jehofa yn Wahanol i Grefyddau Eraill yn y Ffordd Maen Nhw’n Dathlu Swper yr Arglwydd?

Pam Mae Tystion Jehofa yn Wahanol i Grefyddau Eraill yn y Ffordd Maen Nhw’n Dathlu Swper yr Arglwydd?

 Rydyn ni’n dilyn y Beibl yn agos yn y ffordd rydyn ni’n cadw Swper yr Arglwydd, sef Goffadwriaeth marwolaeth Iesu. (1 Corinthiaid 11:20) Yn hyn o beth, rydyn ni’n wahanol i rai enwadau eraill nad yw eu dysgeidiaeth a’u harferion wedi eu seilio ar y Beibl.

Pwrpas

 Pwrpas Swper yr Arglwydd yw cofio Iesu, a dangos ein bod yn ddiolchgar am yr aberth a wnaeth drosom ni. (Mathew 20:28; 1 Corinthiaid 11:24) Nid sacrament mohono; hynny yw nid yw’r dathliad ei hun yn rhoi gras neu faddeuant pechodau. a Mae’r Beibl yn dysgu nad trwy ddefod grefyddol y cawn faddeuant ein pechodau, ond trwy ffydd yn Iesu.​—Rhufeiniaid 3:​25; 1 Ioan 2:​1, 2.

Pa mor aml?

 Gorchmynnodd Iesu i’w ddisgyblion gadw Swper yr Arglwydd, ond ni ddywedodd yn benodol pa mor aml y dylid gwneud hynny. (Luc 22:19) Mae rhai yn credu y dylid ei gadw unwaith y mis, tra bo eraill yn ei gadw bob wythnos, bob dydd, sawl gwaith y dydd, neu mor aml ag yr ystyrir ei fod yn addas. Sut bynnag, y mae rhai ffactorau y dylid eu hystyried.

 Sefydlodd Iesu Swper yr Arglwydd ar yr un dyddiad â’r Pasg Iddewig, a bu farw yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw. (Mathew 26:​1, 2) Nid cyd-ddigwyddiad oedd hynny. Mae’r Beibl yn cymharu aberth Iesu ag aberth oen y Pasg. (1 Corinthiaid 5:​7, 8, beibl.net) Roedd yr Iddewon yn dathlu’r Pasg unwaith y flwyddyn. (Exodus 12:​1-6; Lefiticus 23:5) Yn yr un modd, roedd y Cristnogion cynnar yn cadw Coffadwriaeth marwolaeth Iesu unwaith y flwyddyn, b ac mae Tystion Jehofa yn dilyn y patrwm a welir yn y Beibl.

Dyddiad ac amser

 Mae’r patrwm a sefydlwyd gan Iesu yn helpu i benderfynu, nid yn unig pa mor aml y dylid cadw’r Goffadwriaeth, ond hefyd y dyddiad â’r amser. Cyflwynodd Iesu Swper yr Arglwydd wedi machlud yr haul ar 14 Nisan 33 OG, yn ôl calendr lleuadol y Beibl. (Mathew 26:18-​20, 26) Rydyn ni’n dal i gadw’r Goffadwriaeth ar y dyddiad hwnnw bob blwyddyn, gan ddilyn y Cristnogion cynnar. c

 Er mai dydd Gwener oedd 14 Nisan 33 OG, efallai bydd y dyddiad yn disgyn ar ddiwrnod gwahanol o’r wythnos bob blwyddyn. Rydyn ni’n canfod dyddiad 14 Nisan drwy ddefnyddio’r un dull a ddefnyddiwyd yn oes Iesu, yn hytrach na’r dull a ddefnyddir ar gyfer y calendr Iddewig modern. d

Y bara a’r gwin

 Defnyddiodd Iesu’r bara croyw a’r gwin coch a oedd yn weddill o Swper y Pasg i sefydlu’r dathliad newydd. (Mathew 26:26-​28) Rydyn ni’n dilyn ei esiampl ac yn defnyddio bara croyw plaen heb furum nac unrhyw gynhwysion ychwanegol. Defnyddiwn win coch plaen, nid sudd grawnwin na gwin sydd wedi ei felysu, ei gryfhau na’i sbeisio.

 Bydd rhai enwadau yn defnyddio bara gyda lefain neu furum, ond yn aml mae lefain yn symbol o bechod neu lygredd yn y Beibl. (Luc 12:1; 1 Corinthiaid 5:​6-8; Galatiaid 5:​7-9) Felly, dim ond bara heb lefain neu ychwanegion eraill sy’n addas fel symbol o gorff dibechod Crist. (1 Pedr 2:​22) Arfer arall heb sail iddo yn y Beibl yw defnyddio sudd grawnwin yn lle gwin. Mae rhai eglwysi yn gwneud hyn oherwydd eu gwaharddiad anysgrythurol ar yfed alcohol.​—1 Timotheus 5:​23.

Symbolau, nid cnawd a gwaed llythrennol

 Symbolau o gnawd a gwaed Iesu yw’r elfennau, sef y bara a’r gwin sy’n cael eu gweini yn y Goffadwriaeth. Nid ydyn nhw’n newid yn gnawd a gwaed llythrennol Iesu nac yn cael eu cymysgu â nhw chwaith, fel y mae rhai yn ei gredu. Ystyriwch y rhesymau Ysgrythurol dros ddweud hyn.

  •   Petai Iesu wedi dweud wrth ei ddisgyblion am yfed ei waed, fe fyddai hynny wedi gofyn iddyn nhw dorri cyfraith Duw yn erbyn bwyta gwaed. (Genesis 9:4; Actau 15:28, 29) Mae hyn yn amhosibl oherwydd ni fyddai Iesu byth yn gofyn i neb dorri cyfraith Duw sy’n trin gwaed yn sanctaidd.​—Ioan 8:​28, 29.

  •   Nid oedd yn bosibl i’r apostolion yfed gwaed llythrennol Iesu ac yntau yn dal yn fyw ac yn iach. Nid oedd ei waed wedi ei dywallt bryd hynny.​—Mathew 26:28.

  •   Aberthodd Iesu ei fywyd “un waith am byth.” (Hebreaid 9:25, 26) Ond petai’r bara a’r gwin yn newid yn gnawd a gwaed Iesu yn ystod Swper yr Arglwydd, fe fyddai’r rhai sy’n cyfranogi yn gwneud yr aberth hwnnw dro ar ôl tro.

  •   Dywedodd Iesu: “Gwnewch hyn er cof amdanaf,” nid “yn aberth ohonof.”​—1 Corinthiaid 11:24.

 Mae’r rhai sy’n credu bod y bara a’r gwin yn newid yn gorff a gwaed Iesu (traws-sylweddiad) yn seilio’r ddysgeidiaeth ar eiriau rhai adnodau yn y Beibl. Er enghraifft, mewn llawer o gyfieithiadau mae Iesu yn dweud am y gwin: “Hwn yw fy ngwaed.” (Mathew 26:28) Sut bynnag, mae modd cyfieithu geiriau Iesu fel hyn: “Mae hwn yn golygu fy ngwaed,” neu “Mae hwn yn cynrychioli fy ngwaed.” e Fel y byddai’n ei wneud yn aml, roedd Iesu yn defnyddio trosiad i ddysgu.​—Mathew 13:34, 35.

Pwy sy’n cyfranogi?

 Pan fo Tystion Jehofa yn dathlu Swper yr Arglwydd, dim ond nifer bach ohonon ni sy’n cyfranogi o’r bara a’r gwin. Pam felly?

 Mae’r gwaed a dywalltodd Iesu wedi sefydlu “cyfamod newydd” sydd wedi cymryd lle’r cyfamod rhwng Jehofa a chenedl Israel gynt. (Hebreaid 8:​10-​13) Mae’r rhai sydd yn y cyfamod hwnnw yn cyfranogi o’r elfennau yn y Goffadwriaeth. Mae’r cyfamod newydd yn cynnwys, nid pob Cristion, ond dim ond y “rhai sydd wedi eu galw” gan Dduw mewn ffordd arbennig. (Hebreaid 9:​15; Luc 22:20) Bydd y rhain yn teyrnasu gyda Christ, ac mae’r Beibl yn dweud mai dim ond 144,000 o bobl sy’n cael y fraint honno.​—Luc 22:28-​30; Datguddiad 5:​9, 10; 14:​1, 3.

 Yn wahanol i’r ‘praidd bychan’ o bobl sy’n cael eu galw i deyrnasu gyda Christ, mae’r rhan fwyaf ohonon ni yn gobeithio bod yn rhan o’r “dyrfa fawr” a gaiff fywyd tragwyddol ar y ddaear. (Luc 12:32; Datguddiad 7:​9, 10) Nid yw’r rhai sy’n edrych ymlaen at fywyd ar y ddaear yn cymryd y bara a’r gwin, ond rydyn ni’n bresennol er mwyn diolch am yr aberth a wnaeth Iesu drosom ni.​—1 Ioan 2:2

a Dywed Cyclopedia McClintock a Strong, Cyfrol IX, tudalen 212: “Nid yw’r gair sacrament i’w weld yn y T[estament] N[ewydd]; ac nid yw’r gair Groeg μυστήριον [mu·steʹri·on] byth yn disgrifio bedydd na swper yr Arglwydd, nac unrhyw arfer gweladwy arall.”

b Gweler The New Schaff-Herzog Encyclopedia of Religious Knowledge, Cyfrol IV, tudalennau 43-​44, a Cyclopedia McClintock a Strong, Cyfrol VIII, tudalen 836.

c Gweler The New Cambridge History of the Bible, Cyfrol 1, tudalen 841.

d Ar y calendr modern Iddewig, y lleuad newydd seryddol sy’n pennu dechrau mis Nisan. Sut bynnag, yn y ganrif gyntaf roedd mis Nisan yn dechrau pan welwyd cilgant y lleuad newydd gan wylwyr yn Jerwsalem. Gallai hynny ddigwydd hyd at ddiwrnod neu fwy ar ôl y lleuad newydd seryddol. Mae’r gwahaniaeth hwn yn un rheswm pam nad yw Tystion Jehofa bob amser yn cynnal y Goffadwriaeth ar yr un dyddiad ag y mae Iddewon modern yn dathlu’r Pasg Iddewig.

e Gweler A New Translation of the Bible, gan James Moffatt; The New Testament​—A Translation in the Language of the People, gan Charles B. Williams; a The Original New Testament, gan Hugh J. Schonfield.