Neidio i'r cynnwys

Pam Nad yw Tystion Jehofa yn Derbyn Trallwysiadau Gwaed?

Pam Nad yw Tystion Jehofa yn Derbyn Trallwysiadau Gwaed?

Syniadau anghywir

 Chwedl: Dydy Tystion Jehofa ddim yn derbyn meddyginiaeth na thriniaeth feddygol.

 Ffaith: Rydyn ni’n ceisio’r gofal meddygol gorau posibl ar gyfer ein hunain a’n teulu. Pan fydd gennyn ni broblemau iechyd, fe awn at feddygon sydd â’r ddawn i’n helpu a’n trin drwy ddefnyddio technegau di-waed. Rydyn ni’n ddiolchgar am y datblygiadau yn y maes meddygol. A dweud y gwir, mae triniaethau di-waed sydd wedi cael eu datblygu ar gyfer y Tystion nawr yn cael eu defnyddio ar gyfer pawb yn y gymuned. Mewn llawer o wledydd, gall unrhyw un ddewis osgoi peryglon trallwysiadau gwaed megis heintiau, ymateb negyddol y system imiwnedd, a chamgymeriadau dynol.

 Chwedl: Mae Tystion Jehofa yn credu bod ffydd yn gallu iacháu unigolyn.

 Ffaith: Nid ydyn ni’n iacháu drwy ffydd.

 Chwedl: Mae osgoi trallwysiadau gwaed yn ddrud.

 Ffaith: Mae triniaeth feddygol sy’n osgoi trallwysiadau gwaed yn arbed arian. a

 Chwedl: Mae llawer o Dystion, gan gynnwys plant, yn marw bob blwyddyn o ganlyniad gwrthod trallwysiadau gwaed.

 Ffaith: Does dim sylfaen i’r datganiad hwn. Yn rheolaidd mae llawfeddygon yn rhoi llawdriniaeth gymhleth heb ddefnyddio gwaed, er enghraifft, llawdriniaethau ar y galon ac orthopedig, a thrawsblannu organau. b Ar y cyfan, mae cleifion (gan gynnwys plant) nad yw’n derbyn trallwysiadau gwaed yn gwella cystal os nad yn well na rhywun sydd wedi derbyn gwaed. c Beth bynnag, nid oes unrhyw un yn gallu bod yn sicr os yw rhywun yn marw o ganlyniad gwrthod gwaed neu yn byw drwy ei dderbyn.

Pam nad yw Tystion Jehofa yn derbyn trallwysiadau gwaed?

 Mae hyn yn fater crefyddol yn hytrach na meddygol. Mae’r Hen Destament a’r Newydd yn dweud yn glir y dylen ni ymgadw rhag gwaed. (Genesis 9:4; Lefiticus 17:10; Deuteronomium 12:23; Actau 15:28, 29) Hefyd, yng ngolwg Duw mae gwaed yn cynrychioli bywyd. (Lefiticus 17:14) Felly, rydyn ni’n osgoi cymryd gwaed, nid yn unig oherwydd ufudd-dod i Dduw, ond hefyd allan o barch tuag ato fel Rhoddwr bywyd.

Agweddau yn newid

Gall llawdriniaeth gymhleth gael ei rhoi yn llwyddiannus heb drallwysiadau gwaed.

 Ar un adeg roedd y gymuned feddygol yn ystyried gwrthod gwaed, neu driniaeth ddi-waed, yn eithafol neu’n hunanladdol. Ond mae’r agwedd hon wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, yn 2004, dywedodd un erthygl yng nghylchgrawn meddygol, “Bydd llawer o’r technegau sydd wedi cael eu datblygu ar gyfer cleifion sy’n Dystion Jehofa yn dod yn ymarfer cyffredin yn y blynyddoedd sydd i ddod.” d Yn 2010, dywedodd erthygl yn y cylchgrawn yr Heart, Lung and Circulation na ddylai “‘llawdriniaeth heb waed’ gael ei chyfyngu i Dystion Jehofa yn unig, ond dylai fod yn rhan hanfodol o lawdriniaeth reolaidd i bawb.”

 Nawr, wrth iddyn nhw roi llawdriniaethau cymhleth heb drallwysiadau, mae miliynau o feddygon byd-eang yn defnyddio technegau i arbed gwaed. Mae’r technegau o’r fath nad yw’n defnyddio gwaed yn cael eu defnyddio yng ngwledydd datblygol ac mae llawer o gleifion nad yw’n Dystion Jehofa yn eu dewis.

a Gweler Transfusion and Apheresis Science, Cyfrol 33, Rhif 3, t. 349.

b Gweler The Journal of Thoracic and Cardiovascular Surgery, Cyfrol 134, Rhif 2, tt. 287-288; Texas Heart Institute Journal, Cyfrol 38, Rhif 5, t. 563; Basics of Blood Management, t. 2; a Continuing Education in Anaesthesia, Critical Care & Pain, Cyfrol 4, Rhif 2, t. 39.

c Gweler The Journal of Thoracic and Cardiovascular Surgery, Cyfrol 89, Rhif 6, t. 918; a Heart, Lung and Circulation, Cyfrol 19, t. 658.

d Continuing Education in Anaesthesia, Critical Care & Pain, Cyfrol 4, Rhif 2, tudalen 39.