Neidio i'r cynnwys

Beth Yw’r Watch Tower Bible and Tract Society?

Beth Yw’r Watch Tower Bible and Tract Society?

 Corfforaeth ddielw yw’r Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania a sefydlwyd ym 1884 o dan gyfraith Gwerinlywodraeth Pensylfania, Unol Daleithiau’r America. Fe’i defnyddiwyd gan Dystion Jehofa i gefnogi eu gwaith byd-eang, sy’n cynnwys cyhoeddi Beiblau a llenyddiaeth sy’n seiliedig ar y Beibl.

 Yn ôl ei siarter, mae amcanion y gorfforaeth yn rhai “crefyddol, addysgiadol, ac elusennol,” a’i phrif bwrpas yw “pregethu a dysgu efengyl Teyrnas Dduw dan arweiniad Iesu Grist.” Mae aelodaeth i’r gorfforaeth drwy wahoddiad yn unig, ac nid yw’n seiliedig ar faint mae unigolyn wedi ei gyfrannu’n ariannol. Mae aelodau a chyfarwyddwyr y gorfforaeth yn cynorthwyo Corff Llywodraethol Tystion Jehofa.

Endidau Cyfreithiol Sy’n Cydweithredu

 Yn ogystal â’r Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania, mae Tystion Jehofa yn defnyddio dwsinau o endidau cyfreithiol mewn amryw wledydd. Mae rhai o’r endidau hyn yn cynnwys yn eu henwau termau fel “Watch Tower,” “Watchtower,” neu gyfieithiad o un o’r rhain.

 Mae’r endidau cyfreithiol hyn wedi ein galluogi i gyflawni llawer ers eu sefydlu, er enghraifft:

  •   Ysgrifennu a chyhoeddi. Rydyn ni wedi cyhoeddi rhyw 220 miliwn o Feiblau a thua 40 biliwn darn o lenyddiaeth sy’n trafod y Beibl. Mae ein cyhoeddiadau ar gael mewn dros 900 o ieithoedd. Mae’r wefan jw.org yn caniatáu i bobl ddarllen y Beibl ar lein am ddim mewn mwy na 160 o ieithoedd a hynny er mwyn cael atebion i gwestiynau fel, “Beth yw Teyrnas Dduw?

  •   Addysg. Rydyn ni’n rhedeg gwahanol ysgolion sy’n rhoi hyfforddiant ar gynnwys y Beibl. Er enghraifft, er 1943, mae rhyw 9,000 o Dystion Jehofa wedi elwa ar yr hyfforddiant dwys y mae Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower wedi ei roi iddyn nhw, ac sydd wedi eu helpu nhw i wasanaethu fel cenhadon neu i osod sylfaen dda i’n gwaith byd-eang ac yna ei gryfhau. A phob wythnos, mae miliynau o bobl, gan gynnwys rhai nad ydyn nhw’n Dystion, yn cael eu dysgu am y Beibl mewn cyfarfodydd sy’n cael eu cynnal ym mhob un o’n cynulleidfaoedd. Rydyn ni hefyd yn cynnal dosbarthiadau llythrennedd ac wedi cynhyrchu gwerslyfr mewn 120 o ieithoedd sy’n dysgu pobl i ddarllen ac i ysgrifennu.

  •   Gwaith Elusennol. Rydyn ni wedi rhoi cymorth materol i rai sy’n dioddef sgileffeithiau trychinebau​—un ai rhai sydd wedi eu hachosi gan ddyn, fel yr hil-laddiad ym 1994 yn Rwanda, neu rai naturiol, fel y daeargryn yn 2010 a drawodd Haiti.

 Er bod llawer wedi ei wneud drwy gyfrwng y corfforaethau a’r endidau cyfreithiol a ddefnyddiwn, nid yw ein gwaith yn dibynnu arnyn nhw. Mae gan bob Cristion gyfrifoldeb personol i fod yn ufudd i’r gorchymyn oddi wrth Dduw i bregethu ac i ddysgu’r newyddion da. (Matt. 24:14; 28:19, 20) Credwn mai Duw sy’n cefnogi ein gwaith ac mai Ef “sy’n rhoi’r tyfiant.”—1 Corinthiaid 3:6, 7.