Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Credu Mai Nhw Yw’r Unig Wir Grefydd?

Ydy Tystion Jehofa yn Credu Mai Nhw Yw’r Unig Wir Grefydd?

 Dylai pobl grefyddol gredu bod eu crefydd nhw yn dderbyniol i Dduw ac i Iesu. Neu, fel arall, pam y bydden nhw’n rhan ohoni?

 Nid oedd Iesu Grist yn cytuno â’r syniad bod pob crefydd yn ffordd sy’n arwain i iachawdwriaeth. Yn hytrach fe ddywedodd: “Cyfyng yw’r porth a chul yw’r ffordd sy’n arwain i fywyd, ac ychydig yw’r rhai sy’n ei chael.” (Mathew 7:14) Mae Tystion Jehofa yn credu eu bod nhw wedi cael hyd i’r ffordd honno. Neu bydden nhw’n chwilio am grefydd arall.