Neidio i'r cynnwys

Estonia yn Cydnabod “Llwyddiant Mawr”

Estonia yn Cydnabod “Llwyddiant Mawr”

Cafodd y New World Translation ei ddewis am Wobr Gweithred Ieithyddol y Flwyddyn 2014 yn Estonia. Allan o’r 18 a gafodd eu dewis, fe ddaeth yn drydydd yn ystod y bleidlais olaf.

Cafodd y cyfieithiad newydd yma o’r Beibl, a ryddhawyd ar 8 Awst, 2014, ei ddewis am y wobr gan ieithydd Kristiina Ross o Sefydliad yr Iaith Estoneg. Dywedodd hi fod y New World Translation yn “hawdd ac yn bleser i’w ddarllen. Mae’r gwaith sydd wedi mynd i mewn i’w greu wedi gwella’r maes cyfieithu yn Estonia yn sylweddol.” Roedd Rein Veidemann, Athro llenyddiaeth a diwylliant Estonia, yn galw’r cyfieithiad newydd yn “lwyddiant mawr”

Gorffennwyd y cyfieithiad gyntaf o’r Beibl Estoneg yn y flwyddyn 1739, ac ers hynny mae cyfieithiadau eraill wedi cael eu cynhyrchu. Pam, felly, bod y New World Translation yn “lwyddiant mawr”?

Cywirdeb. Mae un Beibl Estoneg poblogaidd, wedi’i gyhoeddi yn y flwyddyn 1988, i’w ganmol, oherwydd maen nhw wedi cyfieithu enw Duw fel “Jehoova” (Jehofa) dros 6,800 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg (Hen Destament). a Mae’r New World Translation wedi gwneud hyn a mwy. Lle mae sail amlwg i’w wneud, mae’r New World Translation yn defnyddio’r enw dwyfol yn yr Ysgrythurau Groeg hefyd (Testament Newydd).

Eglurdeb. Ydy’r New World Translation yn cyrraedd y nod o gyfieithu yn gywir a’n hawdd ei ddarllen? Yn y Papur Eesti Kirik (Eglwys Estonia), ysgrifennodd Cyfieithydd Beiblaidd adnabyddus, Toomas Paul, bod y New World Translation “wedi cyrraedd y nod o fod yn gyfieithiad naturiol yn yr iaith Estoneg.” Ychwanegodd, “dwi’n sicr mai dyma’r tro cyntaf i’r nod yma gael ei gyflawni.”

Cael budd o’r cyfieithiad Estoneg

Mae ymateb pobl Estonia i’r New World Translation wedi bod yn dda dros ben. Fe gynhaliodd gorsaf radio genedlaethol rhaglen 40 munud wedi ei chysegru i’r Beibl newydd. Mae Clerigwyr ac Eglwyswyr wedi cysylltu â Thystion Jehofa er mwyn archebu copïau. Roedd un o’r ysgolion gorau yn Tallinn wedi gofyn am 20 copi o’r New World Translation i’w ddefnyddio yn un o’u gwersi. Mae Estoniaid yn bobl sy’n caru llyfrau, ac mae Tystion Jehofa yn hapus i ddarparu’r llyfr gorau erioed mewn cyfieithiad cywir a chlir.

a A’r ôl trafod sut mae’r Estoniaid yn ynganu’r enw Dwyfol “Jehoova”, y canlyniad gan Ain Riistan, cadeirydd Astudiaethau’r Testament Newydd ym Mhrif Ysgol Tartu, oedd: “Dwi’n meddwl bod yr enw Jehoova yn addas iawn ar gyfer heddiw. Er ei gychwyniad, mae wedi cael . . . ystyr dwfn a phwysig i lawer dros y cenedlaethau​-Jehoova ydy enw’r Duw sydd wedi gyrru ei Fab i achub dynolryw.”