Neidio i'r cynnwys

Sut Galla i Gael Hyd i’r Wir Grefydd?

Sut Galla i Gael Hyd i’r Wir Grefydd?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn ein helpu ni i weld y gwahaniaethau rhwng gwir grefydd a gau grefydd. Mae’n dweud: “Wrth eu ffrwythau y byddwch chi yn eu hadnabod nhw. Dydy pobl byth yn casglu grawnwin oddi ar ddrain na ffigys oddi ar ysgall, nac ydyn?” (Mathew 7:16) Yn union fel mae gwinllan yn hollol wahanol i ddrain, mae’n bosib gweld y gwahaniaeth rhwng gwir grefydd a gau grefydd drwy edrych ar eu nodweddion, neu ffrwythau.

  1.   Mae’r wir grefydd wedi ei seilio ar y Beibl, nid ar syniadau pobl. (Ioan 4:24; 17:17) Mae’n dysgu’r gwir am yr enaid ac yn rhoi’r gobaith o fywyd tragwyddol mewn paradwys ar y ddaear. (Salm 37:29; Eseia 35:5, 6) Dydy’r wir grefydd ddim yn dal yn ôl rhag dinoethi celwyddau gau grefydd.—Mathew 15:9; 23:27, 28.

  2.   Mae’r wir grefydd yn helpu pobl i ddod i adnabod Duw, sy’n cynnwys eu dysgu nhw beth yw ei enw—Jehofa. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân; Ioan 17:3, 6) Mae’n dysgu bod Duw yn agored ac eisiau bod yn ffrind i ni, yn hytrach nag yn bell oddi wrthon ni ac yn oeraidd.—Iago 4:8.

  3.   Mae’r wir grefydd yn pwysleisio’r ffaith bod Duw wedi ein hachub ni drwy aberth Iesu Grist. (Actau 4:10, 12) Ac mae’r rhai sy’n dilyn y wir grefydd yn gwrando ar Iesu ac yn trio dilyn ei esiampl.—Ioan 13:15; 15:14.

  4.   Mae’r wir grefydd yn canolbwyntio ar Deyrnas Dduw. Mae’r rhai sy’n ei dilyn yn credu y bydd y Deyrnas honno yn datrys holl broblemau dynolryw, ac maen nhw’n brysur yn dweud wrth eraill amdani.—Mathew 10:7; 24:14.

  5.   Mae’r wir grefydd yn annog pobl i ddangos cariad anhunanol, ac i barchu a chroesawu pobl o bob hil, diwylliant, iaith, a chefndir. (Ioan 13:35; Actau 10:34, 35) Oherwydd y cariad hwnnw, dydy dilynwyr y wir grefydd ddim yn mynd i ryfel.—Micha 4:3; 1 Ioan 3:11, 12.

  6.   Dydy’r wir grefydd ddim yn talu ei gweinidogion nac yn rhoi teitlau crand iddyn nhw.—Mathew 23:8-12; 1 Pedr 5:2, 3.

  7.   Mae’r wir grefydd yn hollol niwtral o ran gwleidyddiaeth. (Ioan 17:16; 18:36) Ond, mae’r Beibl yn dweud: “Talwch bethau Cesar yn ôl i Gesar [sef awdurdodau’r wlad], ond pethau Duw i Dduw.” (Marc 12:17) Felly, mae’r rhai sy’n dilyn y wir grefydd yn parchu, ac yn ufudd i, gyfraith y wlad lle maen nhw’n byw.—Rhufeiniaid 13:1, 2.

  8.   Mae’r wir grefydd yn ffordd o fyw. Mae ei dilynwyr yn cadw at safonau moesol uchel y Beibl ym mhob rhan o’u bywydau, yn hytrach na dim ond cadw at ambell i draddodiad neu ddefod bob hyn a hyn. (Effesiaid 5:3-5; 1 Ioan 3:18) Dydy hynny ddim yn golygu eu bod nhw’n sych-dduwiol, i’r gwrthwyneb, maen nhw’n llawen wrth addoli “y Duw hapus.”—1 Timotheus 1:11.

  9.   Fydd y mwyafrif o bobl ddim yn dilyn y wir grefydd. (Mathew 7:13, 14) Mae’n gyffredin i bobl edrych i lawr ar y rhai sy’n dilyn y wir grefydd a hyd yn oed gwneud sbort am eu pennau neu eu herlid am wneud ewyllys Duw.—Mathew 5:10-12.

Ai’r grefydd sy’n ‘teimlo’n iawn i mi’ yw’r wir grefydd?

 Y peryg ydy dewis crefydd ar sail sut mae’n gwneud inni deimlo yn unig. Rhagfynegodd y Beibl y byddai pobl yn troi at athrawon crefyddol “sy’n dweud wrthyn nhw beth maen nhw eisiau ei glywed.” (2 Timotheus 4:3) Ond mae’r Beibl yn ein hannog ni i ddilyn “y math o grefydd sy’n lân ac sydd heb gael ei halogi o safbwynt ein Duw a’n Tad,” hyd yn oed os nad ydy’r grefydd honno yn boblogaidd.—Iago 1:27, troednodyn; Ioan 15:18, 19.