Neidio i'r cynnwys

Pam Mae Tystion Jehofa yn Mynd o Ddrws i Ddrws?

Pam Mae Tystion Jehofa yn Mynd o Ddrws i Ddrws?

 Dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr i ‘wneud disgyblion o’r holl genhedloedd.’ (Mathew 28:19, 20) Pan anfonodd ef ei ddisgyblion cynnar allan, dywedodd wrthyn nhw i fynd i gartrefi’r bobl. (Mathew 10:7, 11-13) Wedi marwolaeth Iesu, parhaodd Cristnogion y ganrif gyntaf i ledaenu’r neges ‘yn gyhoeddus ac yn y cartrefi.’ (Actau 5:42; 20:20) Rydyn ni’n dilyn esiamplau’r Cristnogion cynnar ac wedi darganfod bod mynd o ddrws i ddrws yn ffordd dda o gael hyd i bobl.