Neidio i'r cynnwys

Y Forwyn Fair​—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud Amdani?

Y Forwyn Fair​—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud Amdani?

 Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn dweud bod Mair, mam Iesu, wedi cael y fraint o roi genedigaeth iddo tra oedd hi dal yn wyryf. Roedd y Beibl wedi proffwydo’r wyrth hon yn llyfr Eseia, a chafodd y cyflawniad ei gofnodi yn efengylau Mathew a Luc.

 Mewn proffwydoliaeth am enedigaeth y Meseia, dywedodd Eseia: “Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab.” (Eseia 7:​14) O dan ddylanwad dwyfol, dywedodd Mathew, ysgrifennwr yr Efengyl, fod y broffwydoliaeth yn Eseia yn cyfeirio at genhedliad Iesu. Ar ôl cofnodi bod Mair wedi beichiogi mewn ffordd wyrthiol, dywedodd Mathew: “Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir: “Edrychwch! Bydd merch ifanc a sy’n wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.”)”​—Mathew 1:​22, 23.

 Gwnaeth Luc, ysgrifennwr yr Efengyl, hefyd gofnodi beichiogi gwyrthiol Mair. Ysgrifennodd fod Duw wedi anfon yr angel Gabriel “at ferch ifanc o’r enw Mair. Roedd Mair yn wyryf (heb erioed gael rhyw), ac wedi ei haddo’n wraig i ddyn o’r enw Joseff. Roedd e’n perthyn i deulu y Brenin Dafydd.” (Luc 1:​26, 27) Gwnaeth Mair ei hun gadarnhau ei bod yn wyryf. Ar ôl darganfod ei bod hi’n mynd i fod yn Fam i Iesu, y Meseia, gofynnodd: “Sut mae’r fath beth yn bosib? Dw i erioed wedi cael rhyw gyda neb.”​—Luc 1:34.

 Sut gall gwyryf eni babi?

 Daeth Mair yn feichiog trwy’r ysbryd glân, sef grym Duw ar waith. (Mathew 1:​18) Cafodd Mair wybod: “Daw’r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw.” b (Luc 1:​35, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Trosglwyddodd Duw fywyd ei Fab i groth Mair mewn ffordd wyrthiol, ac felly yn achosi iddi feichiogi.

 Beth oedd pwrpas yr enedigaeth wyryfol?

 Drwy’r enedigaeth wyryfol, rhoddodd Duw gorff dynol perffaith i Iesu fel y gallai Iesu achub dynoliaeth rhag pechod a marwolaeth. (Ioan 3:​16; Hebreaid 10:5) Trosglwyddodd Duw fywyd Iesu i groth Mair. Ar ôl hynny, mae’n ymddangos bod ysbryd Duw wedi amddiffyn yr embryo rhag unrhyw amherffeithrwydd wrth iddo ddatblygu.​—Luc 1:​35, BCND.

 Felly cafodd Iesu ei eni yn ddyn perffaith, fel yr oedd Adda cyn iddo bechu. Dywed y Beibl am Iesu: “Wnaeth e ddim pechu.” (1 Pedr 2:​22) Fel dyn perffaith, roedd Iesu yn gallu talu’r pridwerth er mwyn gwaredu dynolryw o bechod a marwolaeth.​—1 Corinthiaid 15:21, 22; 1 Timotheus 2:​5, 6.

 A oedd Mair yn wyryf am weddill ei bywyd?

 Nid yw’r Beibl yn dysgu fod Mair yn wyryf am weddill ei hoes. Yn hytrach mae’n dangos bod Mair wedi cael mwy o blant.​—Mathew 12:46; Marc 6:3; Luc 2:7; Ioan 7:5.

Mae’r Beibl yn dysgu fod gan Iesu frodyr a chwiorydd

 Ai genedigaeth Iesu oedd y “Beichiogi Dihalog”?

 Nac oedd. Yn ôl y New Catholic Encyclopedia, dysgeidiaeth y Beichiogi Dihalog “yw’r gred bod y Forwyn Fair yn rhydd o bechod gwreiddiol o’r cychwyn cyntaf, sef o’i chenhedliad. Mae gweddill dynolryw yn etifeddu natur bechadurus . . . Ond cafodd Mair, trwy ras unigryw, ei diogelu rhag etifeddu pechod gwreiddiol.” c

 Ond mewn cyferbyniad, does yr un adnod yn y Beibl yn dysgu bod Mair yn rhydd o bechod gwreiddiol. (Salm 51:5; Rhufeiniaid 5:​12) Dangosodd Mair ei bod hi’n bechadurus drwy gynnig offrwm dros bechod, a oedd yn un o’r gofynion ar gyfer mamau yn ôl cyfraith Moses. (Lefiticus 12:​2-8; Luc 2:​21-​24) Mae’r New Catholic Encyclopedia yn dweud: “Nid yw’r Beichiogi Dihalog yn cael ei ddysgu’n benodol yn yr Ysgrythurau . . . Barn yr Eglwys ydyw.”

 Beth ydy’r agwedd gywir tuag at Mair?

 Gosododd Mair esiampl dda o ran ffydd, ufudd-dod, gostyngeiddrwydd a chariad dwfn tuag at Dduw. Mae hi ymhlith llawer o bobl ffyddlon y mae’n werth i ni eu hefelychu.​—Hebreaid 6:​12.

 Er ei rôl unigryw fel mam Iesu, nid yw’r Beibl yn dysgu y dylen ni addoli Mair na gweddïo arni. Ni wnaeth Iesu neilltuo ei fam am anrhydedd arbennig, na gofyn i’w ddilynwyr wneud hynny chwaith. Mewn gwirionedd, heblaw am yn yr Efengylau, ac un cyfeiriad ati yn llyfr Actau, nid oes sôn am Mair yn y 22 lyfr arall yn y Testament Newydd.​—Actau 1:​14.

 Does dim tystiolaeth o gwbl yn yr Ysgrythurau fod Mair wedi derbyn sylw arbennig​—heb sôn am anrhydedd​—gan Gristnogion y ganrif gyntaf. Yn hytrach, mae’r Beibl yn dysgu Cristnogion i addoli Duw yn unig.​—Mathew 4:​10.

a Y gair Hebraeg am ‘ferch ifanc’ ym mhroffwydoliaeth Eseia ydyʽal·mahʹ, sy’n gallu cyfeirio at ddynes wyryf neu at un sydd ddim yn wyryf. Sut bynnag, o dan ddylanwad dwyfol, defnyddiodd Mathew y gair Groeg penodol par·theʹnos, sydd yn golygu “gwyryf.”

b Mae rhai yn anghytuno â defnydd y term “Mab Duw,” gan gredu ei fod yn awgrymu bod Duw wedi cael cyfathrach rywiol gyda dynes. Sut bynnag, dydy hyn ddim yn cael ei ddysgu yn y Beibl. Yn hytrach, mae’r Beibl yn enwi Iesu fel “Mab Duw” a’r cyntaf-anedig yr holl greadigaeth,” oherwydd ef oedd y cyntaf a’r unig un i gael ei greu yn uniongyrchol gan Dduw. (Colosiaid 1:​13-​15, BCND) Mae’r Beibl yn cyfeirio at Adda, y dyn cyntaf, hefyd fel “mab Duw” oherwydd iddo gael ei greu gan Dduw.​—Luc 3:38.

c Ail Argraffiad, Cyfrol 7, tudalen 331.