Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gall maddeuant ddiffodd fflamau anghydfod

AR GYFER CYPLAU

4: Maddeuant

4: Maddeuant

BETH MAE’N EI OLYGU?

Mae maddau yn golygu gollwng gafael ar unrhyw deimladau negyddol a pheidio â dal dig. Dydy maddau ddim yn gofyn ichi esgusodi’r drwg neu gogio nad oedd wedi digwydd yn y lle cyntaf.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Parhewch i oddef eich gilydd ac i faddau i’ch gilydd heb ddal yn ôl, hyd yn oed os oes gan rywun achos i gwyno yn erbyn rhywun arall.”—Colosiaid 3:13.

“Pan fyddwch yn caru rhywun, rydych chi’n edrych y tu hwnt i’w ffaeleddau ac yn gweld y math o berson mae ef neu hi yn ceisio bod.”—Aaron.

PAM MAE’N BWYSIG?

Os ydych chi’n dal dig, gallwch chi achosi niwed corfforol ac emosiynol ichi eich hun—gallwch hefyd achosi difrod i’ch priodas.

“Un tro, gwnaeth fy ngŵr ymddiheuro am rywbeth wnaeth fy mrifo i’r byw. Roedd hi’n anodd imi faddau iddo. Yn y pen draw, mi wnes i, ond dw i’n difaru peidio â gwneud hynny’n gynt. Mi wnaeth y cwbl roi ein priodas o dan straen heb fod rhaid.”—Julia.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

PROFWCH EICH HUN

Y tro nesaf y byddwch yn cael eich brifo gan rywbeth y mae eich cymar yn ei ddweud neu yn ei wneud, gofynnwch i chi’ch hun:

  • ‘Ydw i’n orsensitif?’

  • ‘Ydw i wedi fy mrifo gymaint fel fy mod i’n gorfod cael ymddiheuriad, neu a alla’ i anghofio am y peth?’

TRAFODWCH Â’CH GILYDD

  • Pa mor hir y mae’n cymryd inni faddau i’n gilydd?

  • Beth allwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni’n maddau i’n gilydd?

AWGRYMIADAU

  • Pan fyddwch yn cael eich brifo, peidiwch â drwgdybio cymhellion eich cymar.

  • Ceisiwch esgusodi ymddygiad eich cymar, gan gofio ein bod ni “i gyd yn baglu lawer o weithiau.”—Iago 3:2.

“Mae hi’n hawdd maddau pan fydd y ddau ohonon ni ar fai, ond mae hi’n llawer anoddach pan fydd hi’n ymddangos mai’r person arall yn unig sydd ar fai. Mae derbyn ymddiheuriad a rhoi maddeuant i’n gilydd yn gofyn am wir ostyngeiddrwydd.”—Kimberly.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Bydda’n gyflym i setlo pethau.”—Mathew 5:25.

Os ydych chi’n dal dig, gallwch chi achosi niwed corfforol ac emosiynol ichi eich hun—gallwch hefyd achosi difrod i’ch priodas.