Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae ymrwymiad fel angor sy’n cadw eich priodas yn gadarn yn ystod cyfnodau stormus

AR GYFER CYPLAU

1: Ymrwymiad

1: Ymrwymiad

BETH MAE’N EI OLYGU?

Mae gwŷr a gwragedd sy’n cymryd eu priodas o ddifri yn ei hystyried yn rhwymyn parhaol, ac mae hynny’n gwneud iddyn deimlo’n saff. Mae gan bob cymar hyder yn ei gilydd i anrhydeddu’r briodas, hyd yn oed pan fydd hynny’n anodd.

Mae rhai cyplau yn teimlo bod rhaid iddyn nhw aros gyda’i gilydd oherwydd pwysau o’r gymuned neu’r teulu. Ond, gwell byth ydy ymrwymiad sydd wedi ei seilio ar gariad a pharch.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Ni ddylai gŵr adael ei wraig.”—1 Corinthiaid 7:11.

“Os ydych chi’n cymryd eich priodas o ddifri, ni fyddwch chi’n digio’n sydyn. Rydych chi’n gyflym i faddau ac i ymddiheuro. Rydych chi’n gweld problemau fel rhwystrau i ddod drostyn nhw, ac nid fel pethau sydd am chwalu’r briodas.”—Micah.

PAM MAE’N BWYSIG?

Wrth wynebu problemau, mae cyplau sydd ddim yn cymryd eu priodas o ddifri yn fwy tebygol o ddweud, ‘Dydyn ni ddim yn gweithio fel cwpl’ ac yna’n edrych am ffyrdd i adael eu priodas.

“Mae llawer yn priodi gan wybod bod ganddyn nhw opsiwn arall wrth gefn—ysgariad. Pan fydd pobl yn priodi yn meddwl am ysgariad fel posibilrwydd, mae eu hymrwymiad yn wan o’r dechrau.”—Jean.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

PROFWCH EICH HUN

Pan ydych chi yng nghanol ffrae . . .

  • A ydych chi’n dechrau difaru eich bod chi wedi priodi eich cymar?

  • A ydych chi’n breuddwydio am fod gyda rhywun arall?

  • A ydych chi’n dweud pethau fel “Dw i’n dy adael di” neu “Dw i am ddod o hyd i rywun sy’n fy ngwerthfawrogi”?

Os oeddech chi’n ateb ‘ydw’ i un neu fwy o’r cwestiynau hynny, nawr ydy’r amser ichi gryfhau eich perthynas.

TRAFODWCH Â’CH GILYDD

  • Ydy ymrwymiad ein priodas wedi llacio? Os felly, pam?

  • Pa gamau gallwn ni eu cymryd i dynhau rhwymau ein priodas?

AWGRYMIADAU

  • O bryd i’w gilydd, ysgrifennwch nodyn sy’n dweud wrth eich cymar gymaint rydych chi’n ei garu

  • Dangoswch eich bod chi’n cymryd eich priodas o ddifri drwy roi lluniau o’ch cymar ar eich desg yn y gweithle

  • Ffoniwch eich cymar bob dydd pan ydych chi yn y gweithle neu ar wahân i’ch gilydd

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Yr hyn y mae Duw wedi ei uno, ni ddylai’r un dyn ei wahanu.”—Mathew 19:6.