Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Ceisio Ennill Iachawdwriaeth Drwy Bregethu o Ddrws i Ddrws?

Ydy Tystion Jehofa yn Ceisio Ennill Iachawdwriaeth Drwy Bregethu o Ddrws i Ddrws?

 Nac ydyn. Awn o ddrws i ddrws yn pregethu yn rheolaidd, ond dydyn ni ddim yn credu mai dyma’r ffordd i ennill iachawdwriaeth. (Effesiaid 2:8) Pam ddim?

 Meddyliwch am y gymhariaeth hon: Dychmygwch fod dyn caredig wedi addo anrheg werthfawr i unrhyw un sy’n dod i’w weld ar ddyddiad ac amser penodol. Petasech chi’n gwir gredu bod y dyn am gadw ei air, a fuasech chi’n dilyn ei gyfarwyddiadau? Heb os! Mae’n debyg y byddwch chi’n dweud wrth eich teulu a’ch ffrindiau am y cyfle, fel eu bod nhw hefyd yn gallu elwa. Ond, o ddilyn cyfarwyddiadau’r dyn, dim ennill yr anrheg y byddwch chi. Anrheg yw anrheg wedi’r cyfan.

 Yn yr un ffordd, mae Tystion Jehofa yn rhoi ffydd yn addewid Duw, gan gredu y bydd pawb sy’n ufudd yn cael bywyd tragwyddol. (Rhufeiniaid 6:23) Ymdrechwn i rannu ein ffydd ag eraill, gyda’r gobaith y byddan nhw hefyd yn elwa ar addewidion Duw. Ond, dydyn ni ddim yn credu ein bod ni’n ennill iachawdwriaeth drwy bregethu i eraill. (Rhufeiniaid 1:17; 3:28) Mewn gwirionedd, does neb yn gallu gwneud digon i haeddu bendith mor hael gan Dduw. “Fe’n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o’i drugaredd ei hun.”—Titus 3:5.